
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn adran 5(1A) a (3) o'r Ddeddf i'r graddau y gall is-adran 3 fod yn gymwys i Gymru;
 ystyr “babanod” (“infants”) yw plant o dan ddeuddeng mis oed;
 ystyr “bwyd babanod” (“baby foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin, ond nad ydynt yn cynnwys bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn;
 ystyr “bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn” (“processed cereal-based foods”) yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol o fewn y categorïau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin;
 ystyr “Cytundeb AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “gweddill plaleiddiad” (“pesticide residue”) yw'r gweddill mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn neu mewn bwydydd babanod a hwnnw'n weddill cynnyrch amddiffyn planhigion fel y diffinnir “plant protection product” ym mhwynt 1 o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynglŷn â gosod cynhyrchion amddiffyn planhigion ar y farchnad, gan gynnwys ei fetabolion a chynhyrchion sy'n deillio o'r cynnyrch hwnnw wrth iddo ddiraddio neu adweithio;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu i werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu i'w werthu;
 ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb AEE;
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC) ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1998/36/EC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC; ac
 ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un a thair blwydd oed.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a'r ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb.
(3) Os yw unrhyw Atodlen yn cynnwys unrhyw nodyn, rhaid i ddarpariaethau'r Atodlen honno gael eu dehongli a'u cymhwyso yn unol â'r nodyn hwnnw.
3 
Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc.
4 
Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod oni bai bod y bwyd hwnnw —
(a) yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 5 i 7 o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad; a
(b) wedi'i labelu yn unol â rheoliad 8.
5 

(1) Rhaid peidio â gweithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod o unrhyw gyfansoddyn ac eithrio'r rhai y mae eu haddasrwydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod a phlant ifanc wedi'i gadarnhau drwy ddata gwyddonol sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.
(2) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylwedd ag i beryglu iechyd babanod neu blant ifanc.
(3) Rhaid i gyfansoddiad bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd ag Atodlen 2.
(4) Rhaid i gyfansoddiad bwyd babanod gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Atodlen 3.
6 

(1) Wrth weithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod, rhaid peidio ag ychwanegu unrhyw sylwedd maethol ac eithrio sylwedd maethol a bennir yn Atodlen 4.
(2) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 5 ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir gyferbyn â'r maetholyn hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.
(3) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod a bennir yng ngholofn 1 o Ran II o Atodlen 5 beidio â chynnwys unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir gyferbyn â'r bwyd hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir yng ngholofn 3 o'r rhan honno.
7 

(1) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys —
(a) unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yn Atodlen 6; na
(b) unrhyw omethoad, pan yw'n fetabolyn plaleiddiad nas pennir yn Atodlen 6, nac unrhyw gynnyrch sy'n deillio o ddiraddiant neu ymadwaith y metabolyn hwnnw,
ar lefel sy'n uwch na 0.003 mg/kg.
(2) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 7 ar lefel uwch na'r lefel a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r plaleiddiad hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o unrhyw blaleiddiad unigol nas pennir yn Atodlen 6 neu golofn 1 Atodlen 7 ar lefel sy'n uwch na 0.01 mg/kg.
(4) Mae'r lefelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) to (3) yn gymwys i'r bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu'r bwyd babanod —
(a) sydd wedi'i weithgynhyrchu fel bwyd sy'n barod i gael ei fwyta, neu
(b) os nad yw wedi'i weithgynhyrchu felly, fel y'i hailansoddiwyd yn unol â chyfarwyddiadau'i weithgynhyrchydd.
(5) Rhaid i'r dulliau dadansoddi ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid at ddibenion y rheoliad hwn fod yn ddulliau safonedig sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.
8 

(1) Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996, rhaid i fwydydd proses sydd wedi'i seilio ar rawn a bwydydd babanod gael eu labelu â'r manylion canlynol —
(a) datganiad ynghylch o ba oedran priodol (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na phedwar mis) y caniateir defnyddio'r bwyd, o ystyried ei gyfansoddiad, ei ansawdd ffisegol neu ei nodweddion penodol eraill;
(b) gwybodaeth am bresenoldeb neu absenoldeb glwten os yw'r oedran sydd wedi'i ddatgan yn unol ag is-baragraff (a) yn llai na chwe mis;
(c) gwerth yr ynni sydd ar gael a hwnnw wedi'i fynegi mewn kJ a kcal, a'r cynnwys o ran protein, carbohydradau a braster, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed;
(ch) y maint cyfartalog, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed, o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin y mae gofyniad o ran uchafswm neu isafswm ei gyfansoddiad wedi'i bennu yn —
(i) Rhan II o Atodlen 1 yn achos bwydydd proses wedi'u seilio ar rawn; a
(ii) Atodlen 3 yn achos bwydydd babanod; a
(d) os yw'n angenrheidiol paratoi'r bwyd, cyfarwyddiadau priodol ar gyfer ei baratoi a datganiad ynglŷn â phwysigrwydd dilyn y cyfarwyddiadau hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(ch), rhaid peidio â labelu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod â maint cyfartalog unrhyw faetholyn a bennir yn Atodlen 4 oni bai —
(a) bod y maint cyfartalog yn cael ei fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed; a
(b) yn achos sylwedd mwynol neu fitamin, fod hwnnw'n sylwedd mwynol neu'n fitamin ac eithrio'r un y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(ch).
(3) Os, yn unol â pharagraff (1)(ch) neu baragraff (2), y mae unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod wedi'i labelu â'r maint cyfartalog, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed, o unrhyw fitamin neu fwyn a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 8, rhaid i label y bwyd beidio â mynegi'r maint cyfartalog hwnnw fel canran o'r gwerth cyfeiriadol a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 8 mewn perthynas â fitamin neu'r mwyn hwnnw oni bai bod y maint sy'n bresennol yn hafal i 15 y cant neu fwy o'r gwerth cyfeiriadol.
9 

(1) Ac eithrio os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2)  Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal o ran bwyd sydd wedi'i fewnforio.
10 
Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i reoliad 4, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
11 
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi —
(a) bod y bwyd, yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b) yn achos allforio i un o Wladwriaethau'r AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau'r Gyfarwyddeb.
12 
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(f) adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid barnu bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan baragraff (e) uchod;
(g) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan baragraff (f) uchod;
(ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
13 

(1) Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997 a Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) 1999 mewn perthynas â Chymru.
(2) Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001.
14 

(1) Diwygir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990)(i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â pharagraff (2).
(2)  Yn rheoliad 2(7) (gwahardd gwerthu etc fwyd sy'n cynnwys tryptoffan), yn y diffiniadau o “processed cereal-based food” a “baby food” yn lle'r geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997” rhowch y geiriau “the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Chwefror 2004
ATODLEN 1
Rheoliadau 2(1), 5(3) ac 8(1)(ch)
RHAN I
1 
Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.
2 
Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.
3 
Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.
4 
Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.
RHAN II
Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynnyrch sy'n barod i'w defnyddio, sy'n cael eu marchnata fel y cyfryw neu sydd i'w hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

1 
Mae bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn yn cael eu paratoi'n bennaf o un neu ragor o ydau grawn wedi'u malu a/neu gynhyrchion gwreiddiau startslyd.
Rhaid i gyfanswm yr ydau grawn a/neu'r cynnyrch gwreiddiau startslyd beidio â bod yn llai na 25 y cant o'r cymysgedd terfynol o gymharu pwysau sych y naill a phwysau sych y llall.
2 

2.1 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 2 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran protein beidio â bod yn fwy nag 1.3 g /100 kJ (5.5 g / 100 kcal).
2.2 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.48 g /100 kJ (2 g / 100 kcal).
2.3 
Yn achos bisgedi a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sydd wedi'u gwneud drwy ychwanegu bwyd uchel mewn protein, ac sy'n cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.36 g /100 kJ (1.5 g / 100 kcal).
2.4 
Rhaid i fynegrif cemegol y protein sydd wedi'i ychwanegu fod yn hafal i 80 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol (casein fel y'i diffinnir yn Atodlen 2), neu mae'n rhaid i gymhareb effeithlonrwydd protein (PER) y protein yn y cymysgedd fod yn hafal i 70 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol hwnnw. Ym mhob achos, dim ond at ddibenion gwella gwerth maethol y cymysgedd sy'n cynnwys y protein , a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw y caniateir ychwanegu asidau amino.
3 

3.1 
Os yw swcros, ffrwctos, glwcos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I:
— rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.8 g / 100 kJ (7.5 g / 100 kcal),
— rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.9 g / 100 kJ (3.75 g / 100 kcal).
3.2 
Os yw swcros, ffrwctos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:
— rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.2 g / 100 kJ (5 g / 100 kcal),
— rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.6 g / 100 kJ (2.5 g / 100 kcal).
4 

4.1 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal).
4.2 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal). Os yw'r cynnwys o ran braster yn fwy na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal):
(a) rhaid i gyfanswm yr asid lawrig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;
(b) rhaid i gyfanswm yr asid myristig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;
(c) rhaid i gyfanswm yr asid linolëig (ar ffurf glyseridau = linoleadau) beidio â bod yn llai na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal) a pheidio â bod yn fwy na 285 mg / 100 kJ (1200 mg / 100 kcal).
5 

5.1 

— dim ond at ddibenion technolegol y caniateir ychwanegu halwynau sodiwm at fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn,
— rhaid i'r sodiwm sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn beidio â bod yn fwy na 25 mg /100 kJ (100 mg / 100 kcal).
5.2 

5.2.1 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai nag 20 mg /100 kJ (80 mg / 100 kcal).
5.2.2 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sy'n cael eu gweithgynhyrchu drwy ychwanegu llaeth (bisgedi llaeth) atynt ac yn cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai na 12 mg /100 kJ (50 mg / 100 kcal).
6 

6.1 
Yn achos bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn, rhaid i gyfanswm thiamin beidio â bod yn llai na 25 μg / 100 kJ (100 μg / 100 kcal).
6.2 
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:
 Mae'r terfynau canlynol yn gymwys:
 

 Fesul 100 kJ Fesul 100 kcal
 Isafswm Mwyafswm Lleiafswm Mwyafswm
Fitamin A (μg RE) 14 43 60 180
Fitamin D (μg) 0.25 0.75 1 3


 Mae'r terfynau hyn yn gymwys hefyd os yw fitaminau A a D yn cael eu hychwanegu at fwydydd proses eraill sydd wedi'u seilio ar rawn.
ATODLEN 2
Rheoliad 5(3) ac Atodlen1, Rhan II, Paragraff 2.4


Asid Amino (g fesul 100 g o brotein)
Arginin 3.7
Cystin 0.3
Histidin 2.9
Isolewcin 5.4
Lewcin 9.5
Lysin 8.1
Methionin 2.8
Ffenylalanin 5.2
Threonin 4.7
Tryptoffan 1.6
Tyrosin 5.8
Falin 6.7
ATODLEN 3
Rheoliadau 5(4) ac 8(1)(ch)
Mae'r gofynion ynglŷn â maetholion yn cyfeirio at y cynhyrchion sy'n barod i'w defnyddio, sydd wedi'u marchnata fel y cyfryw neu neu wedi'u hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.

1 

1.1 
Os cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein yw'r unig gynhwysion sydd wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, yna:
— rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 40 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,
— rhaid i bob cig, dofednod, pysgodyn, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,
— rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1.7 g / 100 kJ (7g / 100 kcal).
1.2 
Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn gyntaf yn enw'r cynnyrch, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:
— rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 10 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,
— rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant yn ôl pwysau o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,
— rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1 g / 100 kJ (4g / 100 kcal).
1.3 
Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn enw'r cynnyrch, ond nid yn gyntaf, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:
— rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai nag 8 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,
— rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,
— rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2g / 100 kcal),
— rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).
1.4 
Os yw caws wedi'i grybwyll ynghyd â chynhwysion eraill yn enw cynnyrch sawrus, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:
— rhaid i'r protein o'r ffynonellau llaeth beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2 g / 100kcal),
— rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).
1.5 
Os yw'r cynnyrch wedi'i ddynodi'n bryd bwyd ar y label, ond nad cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell brotein draddodiadol arall wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).
1.6 
Mae sawsiau sy'n cael eu cyflwyno'n gyfwydydd pryd bwyd yn esempt rhag gofynion paragraff 1.1 i 1.5.
1.7 
Rhaid i seigiau melus, y mae cynhyrchion llaeth wedi'u crybwyll yn gynhwysyn cyntaf neu'n unig gynhwysyn yn enwau'r seigiau hynny, beidio â chynnwys llai na 2.2 g o brotein llaeth / 100 kcal. Mae pob saig felus arall yn esempt rhag y gofynion ym mharagraffau 1.1 i 1.5.
1.8 
Dim ond er mwyn gwella gwerth maethol y protein sy'n bresennol, a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw, y caniateir ychwanegu asidau amino.
2 
Rhaid i feintiau'r carbohydradau cyfan sy'n bresennol mewn suddau a neithdarau ffrwythau a llysiau, seigiau ffrwythau-yn-unig, a melysfwydydd neu bwdinau beidio â bod yn fwy na'r canlynol:
— 10 g / 100 ml ar gyfer suddau llysiau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,
— 15 g / 100 ml ar gyfer suddau a neithdarau ffrwythau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,
— 20 g / 100 g ar gyfer seigiau ffrwythau-yn-unig,
— 25 g / 100 g ar gyfer melysfwydydd a phwdinau,
— 5 g / 100 g ar gyfer diodydd eraill nad ydynt wedi'u seilio ar laeth.
3 

3.1 
Yn achos cynhyrchion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.1, os cig neu gaws yw'r unig gynhwysion neu os hwy sydd wedi'u crybwyll gyntaf yn enw cynnyrch, rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.4 g / 100 kJ (6g / 100 kcal).
3.2 
Yn achos pob cynnyrch arall rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal).
4 

4.1 
Rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn fwy nag 48 mg /100 kJ (200 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn fwy na 200 mg fesul 100 g. Er hynny, os caws yw'r unig gynhwysyn sydd wedi'i grybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch beidio â bod yn fwy na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal).
4.2 
Ni chaniateir ychwanegu halwynau sodiwm at gynhyrchion sydd wedi'u seilio ar ffrwythau, nac at felysfwydydd neu bwdinau ac eithrio at ddibenion technolegol.
5 
Fitamin C —
 Mewn sudd ffrwythau, neithdar, neu sudd llysiau rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin C yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn llai na 6 mg /100 kJ (25 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn llai na 25 mg fesul 100 g.
 Mewn suddion llysiau, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin A yn y cynnyrch beidio â bod yn llai na 25 μg RE/100 kJ (100 μg RE/100 kcal) ac, at ddibenion y paragraff hwn, RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.
 Fitamin A —
 Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin A at fwydydd babanod eraill.
 Fitamin D —
 Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin D at fwydydd babanod.
ATODLEN 4
Rheoliadau 6(1) ac 8(2)
1 
Fitaminau
 Fitamin A
 Retinol
 Retinyl asetad
 Retinyl palmitad
 Beta-caroten
 Fitamin D
 Fitamin D2 (= ergocalsifferol)
 Fitamin D3 (= colecalsifferol)
 Fitamin B1
 Thiamin hydroclorid
 Thiamin mononitrad
 Fitamin B2
 Ribofflafin
 Ribofflafin-5'-ffosffad, sodiwm
 Nïacin
 Nicotinamid
 Asid nicotinig
 Fitamin B6
 Pyridocsin hydroclorid
 Pyridocsin-5-ffosffad
 Pyridocsin deupalmitad
 Asid pantothenig
 D-pantothenad, calsiwm
 D-pantothenad, sodiwm
 Decspanthenol
 Ffolad
 Asid ffolig
 Fitamin B12
 Cyanocobalamin
 Hydrocsocobalamin
 Biotin
 D-biotin
 Fitamin C
 L-asid asgorbig
 Sodium L-asgorbad
 Calsiwm L- asgorbad
 6-palmityl-L- asid asgorbig (ascorbyl palmitad)
 Potasiwm asgorbad
 Fitamin K
 Ffylocwinon (ffytomenadion)
 Fitamin E
 D-alffa tocofferol
 DL- alffa tocofferol
 D- alffa tocofferol asetad
 DL- alffa tocofferol asetad
2 
L-arginin }
 L-cystin }
 L-histidin } a'u hydrocloridau
 L-isolewcin }
 L-lewcin }
 L-lysin }
 L-cystein }
 L-methionin
 L-ffenylalanin
 L-threonin
 L-tryptoffan
 L-tyrosin
 L-falin
3 
Colin
 Colin clorid
 Colin citrad
 Colin bitartrad
 Inositol
 L-carnitin
 L-carnitin hydroclorid
4 
Calsiwm
 Calsiwm carbonad
 Calsiwm clorid
 Halwynau calsiwm asid citrig
 Calsiwm glwconad
 Calsiwm glyseroffosffad
 Calsiwm lactad
 Calsiwm ocsid
 Calsiwm hydrocsid
 Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig
 Magnesiwm
 Magnesiwm carbonad
 Magnesiwm clorid
 Halwynau magnesiwm asid citrig
 Magnesiwm glwconad
 Magnesiwm ocsid
 Magnesiwm hydrocsid
 Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig
 Magnesiwm sylffad
 Magnesiwm lactad
 Magnesiwm glyseroffosffad
 Potasiwm
 Potasiwm clorid
 Halwynau potasiwm asid citrig
 Potasiwm glwconad
 Potasiwm lactad
 Potasiwm glyseroffosffad
 Haearn
 Citrad fferrus
 Amoniwm citrad fferrig
 Glwconad fferrus
 Lactad fferrus
 Sylffad fferrus
 Ffwmarad fferrus
 Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)
 Haearn elfennol (carbonyl + electrolytig + wedi'i rydwytho â hydrogen)
 Sacarad fferrig
 Sodiwm ferrig deuffosffad
 Carbonad fferrus
 Copr
 Cymhligyn Copr-lysin
 Carbonad cwprig
 Citrad cwprig
 Glwconad cwprig
 Sylffad Cwprig
 Zinc
 Zinc asetad
 Zinc citrad
 Zinc lactad
 Zinc sylffad
 Zinc ocsid
 Zinc glwconad
 Manganîs
 Manganîs carbonad
 Manganîs clorid
 Manganîs citrad
 Manganîs glwconad
 Manganîs sylffad
 Manganîs glyseroffosffad
 Ïodin
 Sodiwm ïodid
 Potasiwm ïodid
 Potasiwm ïodad
 Sodiwm ïodad
ATODLEN 5
Rheoliad 6(2) a (3)
RHAN I

Colofn 1 Colofn 2
Maetholyn Y terfyn uchaf fesul 100 kcal
Fitamin E 3 mg a-TE
Ribofflafin 0.4 mg
Nïasin 4.5 mg NE
Fitamin B6 0.35 mg
Asid ffolig 50 μg
Fitamin B12 0.35 μg
Asid pantothenig acid 1.5 mg
Biotin 10 μg
Potasiwm 160 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)
Magnesiwm 40 mg
Haearn 3 mg
Zinc 2 mg
Copr 40 μg
Ïodin 35 μg
Manganîs 0.6 mg

RHAN II

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Bwyd Maetholyn Terfyn uchaf fesul 100 kcal

1. 
Suddau llysiau sy'n fwydydd babanod Fitamin A 180 μg RE

2. 
Bwyd wedi'i atgyfnerthu â haearn Fitamin C 25 mg

3. 
Seigiau wedi'u seilio ar ffrwythau, suddau ffrwythau, neithdarau neu suddau llysiau Fitamin C 125 mg

4. 
Bwyd ac eithrio bwyd o o dan eitem Rhif 2 neu 3 uchod Fitamin C 12.5 mg

5. 
Bwyd proses wedi'i seilio ar rawn Thiamin 0.5 mg

6. 
Bwyd babanod Thiamin 0.25 mg

7. 
Bwyd o fewn paragraff 1 neu 2 o Ran I o Atodlen 1 Calsiwm 180 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

8. 
Bwyd o fewn paragraff 4 o Ran I o Atodlen 1 Calsiwm 100 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)

9. 
Bwyd ac eithrio bwyd o f ewn eitem Rhif 7 neu 8 uchod Calsiwm 80 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu)


ATODLEN 6
Rheoliad 7(1) a (3)

Enw cemegol
 Aldrin a deueldrin, wedi'u mynegi fel deueldrin
 Deusylffoton (swm deusylffoton, deusylffoton sylffocsid a deusylffoton sylffon wedi'u mynegi fel deusylffoton)
 Endrin
 Ffenswlffothion (swm ffenswlffothion, ei gydwedd ocsigen a'u sylffonau, wedi'u mynegi fel ffenswlffothion)
 Ffentin, wedi'i fynegi fel triffenyltin cation
 Halocsyffop (swm halocsyffop, ei halwynau a'i esterau gan gynnwys cyfiau, wedi'u mynegi fel halocsyffop)
 Heptaclor a thraws-heptaclor epocsid, wedi'u mynegi fel heptaclor
 Hecsaclorobensen
 Nitroffen
 Omethoad
 Terbwffos (swm terbwffos, ei sylffocsid a'i sylffon, wedi'u mynegi fel terbwffos)

ATODLEN 7
Rheoliad 7(2) a (3)


Colofn 1 Colofn 2
Enw cemegol y sylwedd Y lefel weddillion uchaf(mg/kg)
Cadwsaffos 0.006
Demeton-S-methyl /demeton-S-methyl sylffon/ocsydemeton-methyl (yn unigol neu'n gyfunol, wedi'i fynegi fel demeton-S-methyl) 0.006
Ethoproffos 0.008
Ffipronil (swm ffipronil a ffipronil-desylffinyl, wedi'u mynegi fel ffipronil) 0.004
Propineb/propylenethiowrea (swm propineb a phropylenethiowrea) 0.006
ATODLEN 8
Rheoliad 8(3)


Colofn 1 Colofn 2
Maetholyn Gwerth cyfeiriadol ar gyfer labeli
Fitamin A (μg) 400
Fitamin D (μg) 10
Fitamin C (mg) 25
Thiamin (mg) 0.5
Ribofflafin (mg) 0.8
Cyfwerthyddion nïacin equivalents (mg) 9
Fitamin B6 (mg) 0.7
Ffolad (μg) 100
Fitamin B12 (μg) 0.7
Calsiwm (mg) 400
Haearn (mg) 6
Zinc (mg) 4
Ïodin (μg) 70
Seleniwm (μg) 10
Copr (mg) 0.4