
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004, maent yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn rheoliad 12 (rheoli cynhyrchion sy'n cynnwys sylweddau annymunol ac y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwydydd anifeiliaid), ar ôl paragraff (6) ychwaneger y canlynol —“
(7) Mae paragraffau (8) a (9) yn gymwys i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth at ddibenion masnach neu fusnes unrhyw un o'r cynhyrchion canlynol a fwriedir ar gyfer porthiant —
(a) echdynnydd cnewllyn palmwydd;
(b) porthiant a geir o brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill;
(c) blawd gwymon a deunyddiau porthiant sy'n deillio o wymon; neu
(ch) porthiant cyflawn ar gyfer pysgod neu ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.
(8) Rhaid i unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraff (7), os bydd arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny, gaffael a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad er mwyn dangos bod yr arsenic inorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir ar gyfer porthiant a restrir ym mharagraff (7) yn dod o fewn y terfyn a bennir yn y cofnod perthnasol yng ngholofn 3 o Ran I o Atodlen 7.
(9) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (8) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.”.
(3) Yn lle rheoliad 13 (rheoli porthiant cyfansawdd sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddedig) rhodder y canlynol —“
13. 

(1) Ni chaiff neb roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel porthiant, neu ddefnyddio fel porthiant, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys —
(a) ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul a wahanwyd yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a gawsant eu trin neu eu cymysgu mewn unrhyw ffordd ai peidio;
(b) croen wedi'i drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;
(c) hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi'u trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gyda'r bwriad o'u defnyddio ar gyfer lluosogi planhigion, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;
(ch) pren, gan gynnwys blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren, a gafodd ei drin â chadwolion pren fel y'u diffinnir yn Atodiad V o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gosod cynhyrchion bywleiddaidd ar y farchnad;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a yw wedi'i brosesu neu i'w brosesu ymhellach ai peidio) a geir o drin dwr gwastraff trefol, dwr gwastraff domestig, neu o drin dwr gwastraff diwydiannol (fel y diffinnir y termau “urban waste water”, “domestic waste water” ac “industrial waste water” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC ynghylch trin dwr gwastraff), o ba le bynnag y daeth y dwr gwastraff dan sylw yn wreiddiol;
(dd) gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond heb gynnwys gwastraff arlwyo fel y'i diffinnir gan Reoliad (EC) 1774/2002 sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta;
(e) deunydd pecynnu a rhannau o ddeunydd pecynnu cynhyrchion a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “gwastraff” fydd yr ystyr a roddir i “waste” yn nhestun Saesneg Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ).
(3) At ddibenion paragraff (1)(d), caiff y term “dwr gwastraff” ei ddehongli yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC sy'n mabwysiadu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio at ddibenion maeth anifeiliaid.”.
(4) Yn Rhan IX (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd sy'n rheoli ychwanegion) o Atodlen 3 —
(a) ar ôl y cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 490/2004 mewnosoder y canlynol —“
 Commission Regulation (EC) No. 879/2004 concerning the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (Saccharomyces cerevisiae) (27).
 Commission Regulation (EC) No. 880/2004 authorising without time limit the use of beta-carotene and canthaxanthin as additives in feeding stuffs belonging to the group of colouring matters including pigments (28).
 Commission Regulation (EC) No. 1259/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives already authorised in feeding stuffs (29).
 Commission Regulation (EC) No. 1288/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives and the provisional authorisation of a new use of an additive already authorised in feeding stuffs (30).
 Commission Regulation (EC) No. 1332/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (31).
 Commission Regulation 1333/2004 concerning the permanent authorisation of a certain additive in feeding stuffs (32).
 Commission Regulation (EC) No. 1453/2004 concerning the permanent authorisation of certain additives in feeding stuffs (33).
 Commission Regulation (EC) No. 1465/2004 concerning the permanent authorisation of an additive in feeding stuffs (34).”.
(b) ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —“
(27) OJ No. L162, 30.4.2004, p.65.
(28) OJ No. L162, 30.4.2004, p.68.
(29) OJ No. L239, 9.7.2004, p.8.
(30) OJ No. L243, 15.7.2004, p.10.
(31) OJ No. L247, 21.7.2004, p.8.
(32) OJ No. L247, 21.7.2004, p.11.
(33) OJ No. L269, 17.8.2004, p.3.
(34) OJ No. L270, 18.8.2004, p.11.”.
(5) Yn lle'r cofnodion sy'n ymwneud ag arsenig, fflworin, plwm, afflatocsin B1, gosipol rhydd ac endoswlffan a geir yng ngholofnau 1 i 3 o Ran 1 (Feeding Stuffs) o Atodlen 7 (prescribed limits for undesirable substances) rhaid rhoi'r cofnodion a geir yng ngholofnau 1 i 3 yn y drefn honno o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 ymhellach yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 7 (cyfyngiadau ar amrywiadau) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 24 (diwygio adran 74A(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Ym mharagraff 3(e)(ii) o Ran I o Atodlen 2 (dulliau dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No.2)”.
(3) Ym mharagraff (11)(a) o Ran II (nodiadau ar gwblhau'r dystysgrif) o Atodlen 3 (ffurf ar dystysgrif dadansoddi) ar ôl yr ail “(Wales)” mewnosoder “(No. 2)”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (2)(a) ac ym mharagraff (4) o reoliad 7 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 at ddibenion penodol) ar ôl yr ail “(Wales)” yn y ddau baragraff mewnosoder “(No.2)”.
(3) Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 9, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.
(4) Yn y fersiwn ddiwygiedig o is-adran (17) o adran 76 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 a geir yn rheoliad 10, rhodder y geiriau “(Wales) (No.2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004” ym mha le bynnag y maent yn ymddangos.
(5) Ym mhob un o reoliadau 11, 11A ac 11B, rhodder y geiriau “(Wales) (No. 2) Regulations 2004” yn lle'r geiriau “(Wales) Regulations 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Tachwedd 2004
YR ATODLEN
Rheoliad 2(4)


Column 1 Column 2 Column 3
Arsenic Feed materials except: 2
 — meal made from grass, from dried lucerne and from dried clover and dried sugar beet pulp and dried molasses sugar beet pulp 4
 — palm kernel expeller 4 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2)
 — phosphates and calcareous marine algae 10
 — calcium carbonate 15
 — magnesium oxide 20
 — feedingstuffs obtained from the processing of fish or other marine animals 15 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2)
 — seaweed meal and feed materials derived from seaweed 40 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2)
 Complete feeding stuffs except: 2
 — complete feeding stuffs for fish and fur-producing animals 6 (of which the content of inorganic arsenic must be less than 2)
 Complementary feeding stuffs except: 4
 — mineral feeding stuffs 12
  Note in respect of all entries in column 3
  The maximum levels refer to total arsenic
Fluorine Feed materials except: 150
 — feedingstuffs of animal origin with the exception of marine crustaceans such as marine krill 500
 — phosphates and marine crustaceans such as marine krill 2000
 — calcium carbonate 350
 — magnesium oxide 600
 — calcareous marine algae 1000
 Complete feeding stuffs except: 150
 — complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats 
 — in milk 30
 — other 50
 — complete feeding stuffs for pigs 100
 — complete feeding stuffs for poultry 350
 — complete feeding stuffs for chicks 250
 Mineral mixtures for cattle, sheep and goats 2000
 Other complementary feeding stuffs 125 (fluorine content per percentage point phosphorous in the feeding stuff)
Lead Feed materials except: 10
 — grass meal, lucerne meal or clover meal 40
 — calcium carbonate 20
 — phosphates and calcareous marine algae 15
 — yeast 5
 Complete feeding stuffs 5
 Complementary feeding stuffs except: 10
 — mineral feeding stuffs 15
Aflatoxin B1 All feed materials 0.02
 Complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats except: 0.02
 — dairy animals 0.005
 — calves and lambs 0.01
 Complete feeding stuffs for pigs and poultry (except piglets and chicks) 0.02
 Other complete feeding stuffs 0.01
 Complementary feeding stuffs for cattle, sheep and goats (except complementary feeding stuffs for dairy animals, calves and lambs) 0.02
 Complementary feeding stuffs for pigs and poultry (except piglets and chicks) 0.02
 Other complementary feeding stuffs 0.005
Free Gossypol Feed materials except: 20
 — cotton-seed 5000
 — cotton-seed cakes and cotton-seed meal 1200
 Complete feeding stuffs except: 20
 — complete feeding stuffs for cattle, sheep and goats 500
 — complete feeding stuffs for poultry (except laying hens) and calves 100
 — complete feeding stuffs for rabbits and pigs (except piglets) 60
Endosulphan (sum of alpha- and beta-isomers and of endosulphan sulphate, expressed as endosulphan) All feeding stuffs except: 0.1
 — maize and products derived from the processing thereof 0.2
 — oilseeds and products derived from the processing thereof 0.5
 — complete feeding stuffs for fish 0.005