
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2004.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniad perthnasol a wneir mewn perthynas â ffermwr sydd â'i ddaliad wedi'i leoli, naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yng Nghymru.
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 mae i “daliad” yr un ystyr ag sydd i “holding” yn Erthygl 2(b) o Reoliad y Cyngor;
 ystyr “Deddfwriaeth y Gymuned” (“the Community legislation”) yw Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2237/2003 sydd yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso rhai cynlluniau cefnogi a ddarperir ar eu cyfer yn Nheitl IV o Reoliad y Cyngor , Rheoliad y Comisiwn (EC) 795/2004 sydd yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu y cynllun taliad sengl a ddisgrifir yn Rheoliad y Cyngor  a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cyd-gydymffurfiaeth, modiwleiddio a'r system weinyddu a rheoli cyfunol a ddarperi ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor ;
 mae i “ffermwr” yr un ystyr ag sydd i “farmer” yn Erthygl 2(a) o Reoliad y Cyngor;
 ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant determination”) yw unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol a wneir mewn perthynas â ffermwr yn unol â, neu mewn cysylltiad â deddfwriaeth y Gymuned;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003, sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr )
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hynny fel ei ddiwygir ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.
4 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn sydd, ar gais ffermwr, i'w chymhwyso er mwyn ystyried penderfyniad perthnasol ymhellach, a hynny ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd y weithdrefn yn gweithio fel apêl yn erbyn y penderfyniad perthnasol dan sylw.
(2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlwyd yn unol â pharagraff (1) osod unrhyw ddyddiad cau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei ystyried yn angenrheidiol at ddibenion ei gwneud yn ofynnol i ffermwr gyflwyno iddo, ddogfennau a gwybodaeth berthnasol a rhybudd o fwriad ef neu hi i apelio yn erbyn penderfyniad perthnasol.
(3) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff (1) ddarparu ar gyfer apelio'n ysgrifenedig neu ar lafar i'r personau hynny y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu penodi at y diben hwnnw (heb fod mwy na thri ohonynt), gyda'r bwriad eu bod yn llunio adroddiad o'u casgliadau a'u hargymhellion o ran sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n derfynol ar yr apêl.
(4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu unrhyw weithdrefn a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff—
(a) talu i'r personau a benodir unrhyw dâl rhesymol am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill y bydd yn penderfynu arnynt; a
(b) codi ar unrhyw ffermwr, yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd, unrhyw dâl y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu (heb fod yn fwy na £100), mewn perthynas ag unrhyw gostau a dynnwyd ganddo wrth roi'r weithdrefn ar waith o ran yr apêl dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004