
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchmyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 11 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cynllun” yw'r cynllun a sefydlwyd o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992.
3 

(1) Er gwaethaf diddymu adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947), bydd y Cynllun yn parhau mewn grym.
(2) Bydd y deddfiadau a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun fel pe na baent wedi'u diwygio neu eu diddymu, fel sy'n briodol, gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
4 

(1) Enw newydd y Cynllun fydd “Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)”.
(2) Dehonglir unrhyw gyfeiriad at y Cynllun mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen arall (gan gynnwys y Cynllun ei hun) fel cyfeiriad at y Cynllun o dan ei enw newydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
ATODLEN
Erthygl 3(2)


Deddf Adrannau o'r Ddeddf sy'n parhau i fod ag effaith at ddibenion y Cynllun
Deddf Gwasanaethau Tân 1947 Adran 26, is-adrannau (1) i (5)Adran 27AAdran 35, i'r graddau y mae'n berthnasol i adran 26Adran 39(5)Y Drydedd Atodlen
Deddf Gwasanaethau Tân 1951 Adran 1
Deddf y Lluoedd wrth Gefn a'r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951) Adran 46(3)(iii)Adran 61(1)(d)
Deddf Gwasanaethau Tân 1959 Adran 8, is-adrannau (1) i (3)Adran 9, is-adrannau (1) a (2)Adran 10
Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971) Paragraffau 16, 16A a 44 o Atodlen 2
Deddf Blwydd-daliadau 1972 Adran 16Adran 24(1)(a)
Deddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 Adran 1(3)