
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
2 
Daw'r Ddeddf, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, i rym ar 10 Tachwedd 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004