
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 
Mae PBS 2003 Limited, gan ei fod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel pe bai'n berson sy'n arfer swyddogaeth o natur gyhoeddus, yn gorff cyhoeddus at ddibenion Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.
3 
Mae'r cytundebau y caniateir i PBS 2003 Limited ymrwymo iddynt yn rhinwedd y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a ganlyn—
(a) rhaid bod unrhyw gytundeb felly ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd, neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a
(b) rhaid bod unrhyw gytundeb felly wedi'i wneud mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004