
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ag eithrio bod y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2004 at y dibenion a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau 1976.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi'i farcio “Map Ffiniau Gorchymyn Powys (Cymunedau Aberhonddu a Llanfrynach) 2004” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd.
3 
Mae'r ffin rhwng y rhannau hynny o gymuned Aberhonddu (Ward y Santes Fair) sy'n ffurfio adran etholiadol y Santes Fair, a chymuned Llanfrynach sy'n ffurfio rhan o adran etholiadol Tal-y-bont ar Wysg, fel y mae wedi'i marcio ar y map ffiniau fel “Ffin Gymunedol Newydd”, gyda'r canlyniad bod yr ardal o dir a ddangosir gyda llinellau rhesog du ar y map ffiniau, gan gynnwys yr eiddo a elwir “White House”, i'w chynnwys yng Nghymuned Llanfrynach yn lle yng Nghymuned Aberhonddu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
13 Hydref 2004

