
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Deddf Ymaelodi ynghylch y Weriniaeth Tsiec a Gwladwriaethau Eraill) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004, byddant yn gymwys i Gymru yn unig, a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.
2 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 5 (labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym), mewnosoder y paragraff a ganlyn ar y diwedd—“
(5) In this regulation “Council Directive 89/108/EEC” means Council Directive 89/108/EEC on the approximation of the laws of Member States relating to quick-frozen foodstuffs for human consumption as amended by amendments up to and including those effected by the Act of the European Community concerning the conditions of accession of the Czech Republic, the Republic of Estonia, the Republic of Cyprus, the Republic of Latvia, the Republic of Lithuania, the Republic of Hungary, the Republic of Malta, the Republic of Poland, the Republic of Slovenia and the Slovak Republic and the adjustments to the Treaties on which the European Union is founded.”.
3 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ym mhob un o baragraffau (a)(ii) a (b)(iii) o is-baragraff (2) o baragraff 1 o Atodlen 10 (marcio cynhyrchion wyau) amnewidir y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau a geir ym mhob un o'r paragraffau hynny: “CEE — EØF — EWG — EOK — EEC — EEG — ETY — EHS — EMÜ — EEK — EEB — EGK — KEE — EGS”.
4 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn y diffiniad o “Directive 2000/13” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), mewnosoder yr ymadrodd “the Act of the European Community concerning the conditions of accession of the Czech Republic, the Republic of Estonia, the Republic of Cyprus, the Republic of Latvia, the Republic of Lithuania, the Republic of Hungary, the Republic of Malta, the Republic of Poland, the Republic of Slovenia and the Slovak Republic and the adjustments to the Treaties on which the European Union is founded” yn union o flaen y geiriau “and as read with”.
5 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn indent cyntaf paragraff 2(1) o Ran I o Bennod VII o Atodlen 3 (cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd ac amodau eu rhoi ar y farchnad), rhoddir y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau sydd i'w chael yn yr indent hwnnw: “B / CZ / DK / D / EE / EL / E / F / IRL / I / CY / LV / LT / L / HU / MT / NL / AT / PL / P / SI / SK / FI / SE / UK”.
(3) Yn nhrydydd indent paragraff 2(1) o Ran I o Bennod VII o Atodlen 3, rhodder y rhestr ganlynol o fyrfoddau yn lle'r rhestr bresennol o fyrfoddau sydd i'w cael yn yr indent hwnnw: “CE — EC — EG — EK — EF — EY — ES — EÜ — KB — KE — WE”.
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” a geir yn rheoliad 2 (dehongli), mewnosoder y testun a ganlyn—“
 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gymuned Ewropeaidd ynghylch amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan yr addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd”.
7 

(1) Diwygir Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ddiwedd rheoliad 8(b), mewnosoder y testun a ganlyn—“
 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gymuned Ewropeaidd ynghylch amodau derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan yr addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004