
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 16 Hydref 2004.
2 
Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000 fel a ganlyn.
(a) yn rheoliad 2(2) dileer y geiriau “IACS”;
(b) yn rheoliad 3(1) —
(i) dileer y diffiniadau o “cynllun cymorth IACS” ac “atodiad ALlFf”;
(ii) yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor”, ar ôl y gair “Ewropeaidd” mewnosoder y geiriau canlynol, “, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 41/2004”);
(iii) yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 3508/92”, ar ôl y geiriau “y Gymuned” mewnosoder y geiriau canlynol, “, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 495/2001”;
(iv) yn y diffiniadau o “ffermwr” a “daliad”, yn lle'r geiriau “Erthygl 1(4)” rhodder y geirau “Erthygl 1(3)”;
(v) yn y diffiniad o “dibenion perthnasol”, yn lle'r geiriau “Erthyglau 13 i 24 (yn gynhwysol)” rhodder y geiriau “Erthyglau 13 i 20, Erthyglau 22 i 24”; a
(vi) yn y diffiniad o “y Rheoliad Datblygu Gwledig”, ar ôl y geiriau “Rheoliadau penodol” mewnosoder y geiriau canlynol “, fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 1783/2003”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Hydref 2004