
RHAN 1
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 29 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau tân yng Nghymru yn unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “aelod” (“member”) yw, ac eithrio o ran paragraff (b) o'r diffiniad o “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) a pharagraff (2) o reoliad 15, aelod o awdurdod tân a benodwyd felly gan awdurdod cyfansoddol;
 ystyr “awdurdod cyfansoddol” (“constituent authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n dod o fewn ardal awdurdod tân;
 ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw—
(a) awdurdod tân a sefydlwyd drwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947; a
(b) awdurdod tân ac achub a sefydlwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;
 ystyr “blwyddyn” (“year”) yw—
(a) y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r rheoliadau hyn i rym ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005; a
(b) unrhyw gyfnod o 12 mis sy'n gorffen ar 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ar ôl 2005.
 ystyr “cadeirydd” (“chairperson”) yw aelod a etholwyd gan awdurdod tân yn gadeirydd i'r awdurdod tân hwnnw;
 ystyr “Deddf 1972” (“1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
 ystyr “Deddf 1989” (“1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
 ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
 ystyr “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) yw—
(a) bod yn bresennol mewn cyfarfod yr awdurdod tân neu unrhyw bwyllgor yr awdurdod tân neu unrhyw gorff y mae'r awdurdod tân yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu gyfarfod unrhyw bwyllgor corff o'r fath;
(b) bod yn bresennol mewn cyfarfod unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod tân yn aelod ohono;
(c) bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod arall yr awdurdodir ei gynnal gan yr awdurdod tân neu gan un o bwyllgorau'r awdurdod tân neu gan un o gyd-bwyllgorau'r awdurdod tân ac un neu fwy o awdurdodau tân eraill neu unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol neu gyngor parc cenedlaethol;
(ch) dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;
(d) dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod tân sy'n rhoi hawl i'r awdurdod tân neu sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo archwilio neu awdurdodi archwilio mangre;
(dd) bod yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod tân; ac
(e) unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwywyd gan yr awdurdod tân, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwywyd felly, ac yr ymgymerir â hi er mwyn cyflawni, neu mewn cysylltiad â chyflawni, swyddogaethau'r awdurdod tân neu swyddogaethau unrhyw un o'i bwyllgorau;
 ystyr “is-gadeirydd” (“vice-chairperson”) yw aelod a etholwyd gan awdurdod tân yn is-gadeirydd i'r awdurdod hwnnw;
 ystyr “lwfans awdurdod tân” (“fire authority allowance”) yw lwfans sylfaenol sy'n daladwy o dan adran 18(1)(a) o Ddeddf 1989;
 ystyr “lwfans cadeirydd awdurdod tân” (“fire authority chairperson’s allowance”) yw lwfans cyfrifoldebau arbennig sy'n daladwy o dan adran 18(1)(c) o Ddeddf 1989;
 ystyr “lwfans is-gadeirydd awdurdod tân” (“fire authority vice-chairperson’s allowance”) yw lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy o dan adran 18(1)(c) o Ddeddf 1989;
 mae ystyr “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor;
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002; a
 rhaid dehongli “swyddog priodol” yn unol â sut y mae “proper officer” wedi'i ddehongli yn adran 270(3) o Ddeddf 1972.
3 
Mae awdurdodau tân wedi'u rhagnodi yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) a (d) o Ddeddf 2000.
RHAN 2
4 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir i gyfnod swydd aelod ddechrau ar y dyddiad y cafodd yr aelod hwnnw ei benodi i'r swydd honno gan awdurdod cyfansoddol, a bernir i gyfnod swydd cadeirydd neu is-gadeirydd awdurdod tân ddechrau ar y dyddiad yr etholwyd yr aelod hwnnw i'r swydd honno gan yr awdurdod tân.
5 

(1) Rhaid i bob awdurdod tân—
(a) gwneud cynllun yn unol â'r Rheoliadau hyn bob blwyddyn i dalu'r lwfansau a ddisgrifir yn y Rhan hon; a
(b) talu'r lwfansau hynny yn unol â'r cyfryw gynllun.
(2) Pan fo cynllun i'w ddirymu yn unol â rheoliad 6, rhaid i'r awdurdod tân, cyn i'r dirymiad ddod yn effeithiol, wneud cynllun pellach am y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r dirymiad yn effeithiol.
6 

(1) Caniateir diwygio neu ddirymu cynllun a wneir o dan y Rhan hon ar unrhyw adeg.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), canateir i gynllun a wneir o dan y ddarpariaeth hon ddarparu ar gyfer addasu lwfansau yn flynyddol, a hynny o ran y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a'r blynyddoedd dilynol.
(3) Rhaid i addasiad blynyddol a wneir gan awdurdod tân—
(a) yn achos lwfans awdurdod tân, beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfansau sylfaenol sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny yn y flwyddyn honno, o dan Reoliadau 2002; a
(b) yn achos lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân, beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfansau cyfrifoldebau arbennig sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny yn y flwyddyn honno, o dan Reoliadau 2002.
(4) Pan fo addasiad i'w wneud i gynllun a fydd yn effeithio ar y lwfans sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn y gwneir yr addasiad, caiff y cynllun ddarparu bod yr hawl i gael y lwfans sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.
(5) Pan nad yw cynllun yn darparu bod yr hawl i gael lwfans sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (4)—
(a) bydd yr addasiad yn effeithiol o ddyddiad yr addasu; a
(b) bydd yr hawl i gael y lwfans hwnnw sydd wedi'i addasu yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r lwfans yn effeithiol yn ystod y flwyddyn honno o'i chymharu â nifer y dyddiau sydd yn y flwyddyn honno.
7 

(1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod lwfans awdurdod tân yn cael ei dalu, am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, i bob aelod o'r awdurdod tân, a rhaid i swm y lwfans hwnnw fod yr un fath â'r swm a delir i bob aelod.
(2) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun yn fwy na £505.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(a), (4) a (5) o reoliad 6, ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun yn fwy na £1,002.
(4) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun (yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(a), (4) a (5) o reoliad 6) yn fwy na chyfanswm y lwfans a oedd yn daladwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.
(5) Os bydd cyfnod swydd aelod yn para am ran o flwyddyn yn unig, rhaid i'r cynllun ddarparu y bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans awdurdod tân hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y cyfnod hwnnw.
(6) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o gyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod hwnnw yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, rhaid i'r cynllun bennu y caiff yr awdurdod tân wrthod talu'r gyfran honno o'r lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod pan ataliwyd yr aelod dros dro neu ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
(7) Rhaid i gynllun a baratoir o dan y Rhan hon ddarparu na fydd mwy nag un lwfans awdurdod tân yn daladwy i aelod.
8 

(1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu ar gyfer talu, am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.
(2) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ni fydd cyfanswm—
(a) lwfans cadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i gadeirydd o dan y cynllun yn fwy na £4,591; a
(b) lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i is-gadeirydd o dan y cynllun yn fwy na £3,529.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(b), (4) a (5) o reoliad 6, ni fydd cyfanswm—
(a) lwfans cadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i gadeirydd o dan y cynllun ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £9,108; a
(b) lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i is-gadeirydd o dan y cynllun ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £7,000.
(4) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm—
(a) lwfans cadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i gadeirydd o dan y cynllun (yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(b), (4) a (5) o reoliad 6) yn fwy na chyfanswm y lwfans hwnnw a oedd yn daladwy yn ystod y flwyddyn flaenorol; a
(b) lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i is-gadeirydd o dan y cynllun ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 (yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(b), (4) a (5) o reoliad 6) yn fwy na chyfanswm y lwfans hwnnw a oedd yn daladwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.
(5) Pan fo cyfnod swydd aelod o awdurdod tân fel cadeirydd (neu is-gadeirydd) yn para am ran o flwyddyn yn unig, rhaid i'r cynllun ddarparu y bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael ei dalu'r gyfran honno o lwfans cadeirydd awdurdod tân (neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân) sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r aelod yn dal y swydd yn ystod y flwyddyn o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
(6) Pan fo aelod wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel cadeirydd neu is-gadeirydd yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, rhaid i'r cynllun bennu y bydd yr awdurdod tân yn cael gwrthod talu'r gyfran honno o lwfans cadeirydd awdurdod tân neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod yr ataliwyd ef dros dro, neu yr ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
RHAN 3
9 
O ran unrhyw flwyddyn y mae'n ymwneud â hi, rhaid i gynllun o dan Ran 2 bennu—
(a) swm lwfans awdurdod tân; a
(b) swm lwfans cadeirydd yr awdurdod tân a swm lwfans is-gadeirydd yr awdurdod tân.
10 
Pan dalwyd lwfans yn barod o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn o ran unrhyw gyfnod pan fo'r aelod dan sylw—
(a) wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel aelod, cadeirydd neu is-gadeirydd yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno;
(b) wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod tân; neu
(c) yn anghymwys mewn unrhyw ffordd i dderbyn y lwfans yn ystod y cyfnod hwnnw,caiff cynllun ddarparu y caiff yr awdurdod tân ofyn am gael adennill y gyfran honno o'r lwfans sy'n ymwneud ag unrhyw gyfnod felly (a chaiff dull yr adennill gynnwys bod yr awdurdod tân yn peidio â thalu swm o'r lwfans perthnasol i'r aelod yn y dyfodol, boed yn rhannol neu'n gyfan).
11 
Rhaid i gynllun o dan Ran 2 ddarparu y caiff aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod tân, ddewis peidio â derbyn unrhyw gyfran neu'r holl gyfran o hawl yr aelod hwnnw i gael lwfans o dan y cynllun.
12 
Caiff cynllun o dan Ran 2 ddarparu bod lwfansau yn cael eu talu ar yr adegau hynny a bennir ynddo, a chaniateir pennu amserau gwahanol i lwfansau gwahanol.
RHAN 4
13 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer talu lwfans (“lwfans gofal”) i aelod ar gyfer unrhyw dreuliau o ran gofalu am blant neu ddibynyddion sy'n angenrheidiol eu tynnu wrth i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod.
(2) Wrth ddarparu o dan baragraff (1), rhaid i awdurdod tân beidio â darparu ar gyfer talu—
(a) lwfans gofal i aelod y mae ganddo hawl i gael lwfans cadeirydd awdurdod tân neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n ffurfio swm sy'n fwy na'r cyfanswm a bennir o dro i dro yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b) lwfans gofal mewn perthynas ag unrhyw blentyn dros bymtheg oed neu ddibynnydd onid yw'r aelod yn bodloni'r awdurdod tân bod angen goruchwyliaeth ar y plentyn neu'r dibynnydd a bod hynny wedi peri i'r aelod dynnu treuliau a oedd yn angenrheidiol mewn perthynas â gofal y plentyn hwnnw neu'r dibynnydd hwnnw wrth gyflawni dyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod;
(c) lwfans gofal i fwy nag un aelod ynglyn â gofalu am yr un plentyn neu ddibynnydd; neu
(ch) mwy nag un lwfans gofal i unrhyw aelod nad yw'n gallu dangos, er bodlonrwydd rhesymol yr awdurdod, fod yr aelod wedi gorfod gwneud trefniadau ar wahân i ofalu am blant neu ddibynyddion gwahanol.
(3) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005—
(a) ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i gadeirydd yn fwy na £678;
(b) ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i is-gadeirydd yn fwy na £529; ac
(c) ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i aelod yn fwy na £185.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 14, ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy—
(a) i gadeirydd ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £1,344;
(b) i is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £1,050; ac
(c) i aelod ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 yn fwy na £366.
(5) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod (yn ddarostyngedig i reoliad 14) yn fwy na chyfanswm y lwfans hwnnw a oedd yn daladwy i'r swydd honno yn y flwyddyn flaenorol.
(6) Pan fo cyfnod swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn para am ran o flwyddyn yn unig, bydd hawl y cadeirydd, yr is-gadeirydd neu'r aelod yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans gofal sy'n daladwy i'r swydd honno sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y daliwyd y swydd honno yn ystod y flwyddyn o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
(7) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod, yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, ni fydd yr awdurdod tân yn talu'r lwfans gofal sy'n daladwy i'r swydd honno am y cyfnod yr oedd y cadeirydd, yr is-gadeirydd neu'r aelod wedi'i atal dros dro, neu wedi'i atal dros dro yn rhannol.
14 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer addasiad blynyddol i lwfans gofal am y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a blynyddoedd dilynol.
(2) Ni fydd addasiad blynyddol i lwfans gofal sy'n daladwy gan awdurdod tân i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn fwy na'r cyfanswm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfans gofal sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2002.
(3) Pan fo awdurdod tân i addasu swm lwfans gofal, caiff yr awdurdod hwnnw ddarparu bod yr hawl i'r lwfans fel y'i addaswyd yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.
(4) Pan nad yw awdurdod tân yn darparu bod yr hawl i gael lwfans gofal sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (3)—
(a) bydd yr addasiad yn effeithiol o ddyddiad yr addasu; a
(b) bydd yr hawl i gael y lwfans gofal hwnnw fel y'i addaswyd yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r lwfans yn effeithiol yn ystod y flwyddyn honno o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
15 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau ar ffurf lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth yn ôl cyfraddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod tân ar gyfer pob blwyddyn pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod.
(2) Rhaid i gyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn cerbyd modur preifat beidio â bod yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Rhaid i dderbynebau sy'n profi beth oedd y gwariant gwirioneddol fynd gydag unrhyw hawliad am lwfansau teithio a chynhaliaeth o dan y Rhan hon (ac eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) ac, yn ogystal, rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu gyfyngiad a benderfynir gan awdurdod.
(4) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o gyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod hwnnw yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000, neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, caiff yr awdurdod tân wrthod talu'r gyfran honno o'r lwfans teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod yr ataliwyd ef dros dro neu ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
16 
Pan dalwyd lwfans yn barod o dan y Rhan hon o ran unrhyw gyfnod pan fo'r aelod dan sylw—
(a) wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel aelod, cadeirydd neu is-gadeirydd yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno;
(b) wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod tân; neu
(c) yn anghymwys mewn unrhyw ffordd i dderbyn y lwfans yn ystod y cyfnod hwnnw,caiff yr awdurdod tân ddarparu y caiff ofyn am gael adennill y gyfran honno o'r lwfans sy'n ymwneud ag unrhyw gyfnod felly (a chaiff dull yr adennill gynnwys bod yr awdurdod tân yn peidio â thalu swm o'r lwfans perthnasol i'r aelod yn y dyfodol, boed yn rhannol neu'n gyfan).
RHAN 5
17 

(1) Rhaid i unrhyw dalu lwfansau i aelod o dan y Rheoliadau hyn gael ei wneud gan yr awdurdod tân y mae'r aelod yn aelod ohono.
(2) Rhaid i hawliad am dâl ar ffurf lwfans gofal, lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod neu rhaid i'r datganiad hwnnw fynd gyda'r hawliad. Datganiad yw hwn nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall ynglyn â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef gan yr awdurdod tân na chan unrhyw berson arall.
18 

(1) Rhaid i bob awdurdod tân gadw cofnod o daliadau sy'n cael eu gwneud ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn neu'n unol ag unrhyw gynllun a wneir yn unol â hwy.
(2) Rhaid i gofnod o'r fath bennu enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad, a rhaid trefnu iddo fod ar gael ar bob adeg resymol i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr adran 270(1) o Ddeddf 1972) ar gyfer awdurdod cyfansoddol.
(3) Caiff person sydd â hawl i archwilio'r cofnod o dan baragraff (2) gymryd copi o unrhyw ran ohono, drwy dalu unrhyw ffi resymol y mae'r awdurdod tân yn ei gwneud yn ofynnol ei dalu.
19 

(1) Rhaid i bob awdurdod tân, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud neu ddiwygio unrhyw gynllun a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi yn ardal yr awdurdod tân.
(2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn y mae cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod tân y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod ar gyfer pob un o'r canlynol, sef, lwfans awdurdod tân, lwfans cadeirydd awdurdod tân, a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.
(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd ganddo o ran lwfans gofal i bob aelod, a hynny o fewn ardal yr awdurdod tân.
20 
Datgymhwysir adrannau 174 ac 175 o Ddeddf 1972 mewn perthynas ag awdurdodau tân.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Medi 2004