
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
7 Chwefror 2004 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —
(a) adran 2(6) (diffiniadau sylfaenol);
(b) adrannau 4(6) a (7), 9 i 11, 12(1) i (3), 27(3), 53(1) i (3), 54, 56(1) a (3), 57(6), 59, 63 i 65 a 98;
(c) at ddibenion gwneud rheoliadau, adrannau 4(1)(b) a (5), 57(5), 58(2) a (3), 60(2) a (4) a 61(5)(c) a 62(7)(c);
(ch) paragraffau 3 a 5 o Atodlen 4, ac adran 139(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Chwefror 2004