
1 
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004;
(b) deuant i rym y diwrnod ar ôl iddynt gael eu gwneud.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
8. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
8. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 9”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
9. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 2, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 10”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
10. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
(3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 4, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 14”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
14. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 3, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 11”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
11. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 3 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
(3) Yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 4, ar ôl “os yw'n gymwys” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 13”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
13. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 4 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C)(a) a (b) neu 115(6B)(a) a (b) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
7 

(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny—
(a) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “o dan Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “ac yn ddarostyngedig i baragraff 8”;
(b) ar y diwedd mewnosoder y canlynol—“
8. 
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Medi 2004