
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Cymru) 2004; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “archwilydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i fod yn archwilydd at ddibenion y Gorchymyn;
 ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993;
 ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/4/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd mesurau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith o ran yr Aifft);
 ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L; ac
 mae i “tystysgrif ffytoiechydol” yr un ystyr â “phytosanitary certificate” yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn.
3 

(1) At ddibenion erthygl 3(1)(e) o'r Gorchymyn dim ond os yw'n cydymffurfio â pharagraff 1(b)(xi) o'r atodiad i'r Penderfyniad y bydd tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer tatws sy'n tarddu o'r Aifft yn dystysgrif ffytoiechydol ddilys.
(2) Ni fydd y gofyniad sy'n cael ei osod gan bwynt 25.8 o Adran 1 o Ran A Atodlen 4 i'r Gorchymyn (datganiad swyddogol bod tatws yn tarddu o ardaloedd lle nad yw'n hysbys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn digwydd) yn gymwys i fewnforion tatws sy'n tarddu o'r Aifft.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, gyflawni unrhyw driniaeth, gan gynnwys golchi, ar datws sy'n tarddu o'r Aifft ac eithrio mewn mangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i chymeradwyo'n ysgrifenedig at y diben hwnnw.
(2) Rhaid i geisiadau am y gymeradwyaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (1) gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru atal neu ddirymu yn ysgrifenedig unrhyw gymeradwyaeth a roddwyd yn unol â pharagraff (1).
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bacio neu baratoi tatws mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i'w gyflwyno i'r defnyddiwr olaf.
5 

(1) Nid yw darpariaethau'r rheoliad hwn yn lleihau effaith y pwerau a roddwyd i archwilydd gan y Gorchymyn.
(2) Pan fo ganddo sail resymol dros amau bod rheoliad 4(1) wedi'i dorri neu'n debyg o gael ei dorri, caiff archwilydd arfer y pŵer a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r Gorchymyn o'i ddarllen ynghyd ag erthygl 24(1) i (3) o'r Gorchymyn, fel petai taten sy'n tarddu o'r Aifft yn blanhigyn sy'n cael ei gadw neu ei symud yn groes i'r Gorchymyn.
(3) Bydd unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn rhinwedd paragraff (2) yn cael effaith fel petai wedi'i gyflwyno o dan erthygl 22(2) o'r Gorchymyn a bydd erthyglau 24(4) i (6), 26 i 28, 32 a 33(1)(b) ac (c) a (6) o'r Gorchymyn yn gymwys yn unol â hynny.
(4) Caiff archwilydd, er mwyn gwirio cydymffurfedd â rheoliad 4(1), arfer y pwerau a roddwyd gan erthygl 25 o'r Gorchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn.
(5) Bydd arfer pŵer yn rhinwedd paragraff (4) yn cael ei drin fel arfer y pŵ er at ddibenion y Gorchymyn a bydd erthyglau 28 a 33(1)(c) yn gymwys yn unol â hynny.
6 
Pan fo'r pŵer i gymryd samplau a roddwyd gan erthygl 25(1)(a) o'r Gorchymyn yn cael ei arfer gan archwilydd mewn perthynas â thatws sy'n tarddu o'r Aifft er mwyn darganfod, at ddibenion paragraff 3 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi'u heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr, os gofynnir iddo wneud hynny, dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ffi o £37.50 am bob eitem a samplwyd.
7 

(1) Bydd person yn euog a dramgwydd os yw'n torri rheoliad 4(1) neu'n methu cydymffurfio ag ef heb esgus rhesymol ac ar y person hwnnw y bydd baich profi bod ganddo'r esgus rhesymol hwnnw.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
8 

(1) Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu o ran Cymru —
(a) Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft 1998; a
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Diwygio) 1998.
(2) Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —
(a) Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2000;
(b) Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2001); ac
(c) Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Awst 2004