
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Lleol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 6 Chwefror 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn:
(a) mae i “ardal llywodraeth leol” yr un ystyr â “local government area” yn adran 203 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
(b) ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972; ac
(c) ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor fel y cyfeirir ato yn adran 21 o Ddeddf 1972.
2 

(1) Er gwaethaf adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, yn 2004 yr un diwrnod â dyddiad y bleidlais yn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop a gynhelir y flwyddyn honno fydd diwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru.
(2) O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) cyfnod swydd unrhyw gynghorydd ar gyfer ardal llywodraeth leol yng Nghymru a fyddai wedi ymddeol fel arall ar y pedwerydd diwrnod ar ôl diwrnod arferol gwreiddiol etholiad at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod arferol etholiad newydd.
(3) Cyfnod swydd cynghorydd a etholir ar gyfer ardal llywodaraeth leol yng Nghymru ar ddiwrnod arferol etholiad yn 2004 y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredin nesaf.
(4) O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperiu ar ei gyfer ym mharagraff (1) ni fydd adran 16(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 yn gymwys i unrhyw etholiadau cynghorwyr cymuned sydd i'w cynnal ar y diwrnod arferol ar gyfer etholiad cynghorwyr yn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru yn 2004.
(5) Mae unrhyw gyfeiriad at 6 Mai 2004 mewn unrhyw orchymyn—
(a) sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 (gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau Lleol Cymru),
(b) sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 28(3) o Ddeddf 1972 (sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned),
(c) sy'n cael ei wneud gan brif gyngor yng Nghymru o dan adran 57(6) o Ddeddf 1972 (newid y trefniadau etholiadol ar gyfer cyngor cymuned), neu
(ch) sy'n cael ei wneud, mewn perthynas â Chymru, o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pŵer i newid y blynyddoedd pan fo etholiadau cyffredin cynghorwyr i'w cynnal),
i'w ddehongli fel cyfeiriad at ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr yn 2004 ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) uchod.
3 
O ran etholiadau cyffredin yn 2004 yng Nghymru—
(a) os byddai cynghorydd prif gyngor fel rheol wedi ymddeol ar y pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin cynghorwyr o'r fath yn 2004, byddai adran 89(3) o Ddeddf 1972 yn gymwys i swydd wag dros dro yn swydd y cynghorydd hwnnw fel petai'r geiriau “the period beginning with the 10th of November 2003 and ending immediately before” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “six months before”; a
(b) os byddai cynghorydd cymuned fel rheol wedi ymddeol ar y pedwerydd diwrnod ar ôl etholiad cyffredin, byddai rheol 8 o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 yn gymwys i swydd cynghorydd sydd yn wag dros dro fel petai'r geiriau “within the period beginning with the 10th of November 2003 and ending immediately before” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “six months before” ym mharagraff (1) ac yn lle “within six months before” ym mharagraff (4).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Chwefror 2004