
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31Gorffennaf 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) 2002 (“y prif Reoliadau”) fel a ddarperir yn rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, rhodder—“
 ystyr “man aros gosodedig” (“fixed stopping place”) yw man aros mewn lleoliad gosodedig; a
 ystyr “gwasanaeth hyblyg” (“flexible service”) yw gwasanaeth:
(i) sy'n gwasanaethu un neu fwy o gymunedau neu gymdogaethau lleol o fewn ardal ddaearyddol benodedig,
(ii) sydd, er bod iddo rannau gosodedig ar y llwybr teithio, yng nghyfanrwydd ei weithredu mor hyblyg fel nad yw'n ymarferol i ddynodi ymlaen llaw pob ffordd a dramwyir ar unrhyw adeg benodedig,
(iii) a ddarperir yn bennaf at ddibenion cario teithwyr sydd wedi archebu ar gyfer y daith ymlaen llaw ac y mae eu hanghenion cyfunol yn penderfynu llwybr pob taith er y gall fod pobl eraill hefyd yn teithio,
(iv) y mae pob sedd ar ei gyfer ar gael i'w defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd, a
(v) a ddarperir am gydnabyddiaeth a delir gan deithwyr unigol am deithio ac nad yw'r prisiau hynny'n ddarostyngedig i amrywiad yn ôl nifer y teithwyr sy'n cael eu cario ar y daith.”.
4 

(1) Diwygir rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cymhwyster i gael grant) fel a ganlyn—
(2) Ym mharagraff (1)(b), hepgorer y geiriau o “ac sy'n defnyddio cerbyd” i “yn unol ag amserlen) ac”.
(3) Yn lle paragraff (2)(b) rhodder y canlynol —“
(b) bod y trefniadau aros yn gweithredu fel a ganlyn—
(i) lleolir yr holl fannau aros gosodedig (os ydynt wedi'u marcio neu'n cael eu cydnabod yn gyffredinol fel arall), heblaw'r rhai lle mae terfynfaoedd gwasanaeth, mewn lleoliad lle y mae'n debygol y defnyddir hwy yn rhesymol aml gan aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, a
(ii) mewn unrhyw ran o ardal gweithredu'r gwasanaeth lle nad oes mannau aros gosodedig, mae'r trefniadau ar gyfer penderfynu pa le a pha bryd y gellir codi a gollwng teithwyr yn rhai y gall aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol fanteisio arnynt yn rhesymol aml;”.
(4) Yn lle paragraff (2)(c) rhodder—“
(c) bod yr aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud taith unigol rhwng dau fan aros (i'r graddau y darperir ar gyfer y teithiau hynny yn y manylion cofrestredig gan gofio am gyfyngiadau esgyn a disgyn) wrth dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth,
(ca) yn achos gwasanaeth hyblyg, bod y trefniadau archebu ymlaen llaw o'r math fel nad ydynt yn rhwystro aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol rhag gwneud taith unigol y darperir fel arall ar ei chyfer yn y manylion cofrestru;”.
(5) Ym mharagraff (2)(ch), yn lle “yr aelodau hynny” rhodder “aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol ”.
(6) Yn lle paragraff (3)(b) rhodder —“
(b) mae'r trefniadau aros yn gweithredu fel a ganlyn—
(i) lleolir yr holl fannau aros gosodedig (os ydynt wedi'u marcio neu'n cael eu cydnabod yn gyffredinol fel arall) mewn lleoliad lle y mae'n debygol y defnyddir hwy yn rhesymol aml gan aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, a
(ii) mewn unrhyw ran o ardal gweithredu'r gwasanaeth lle nad oes mannau aros gosodedig, mae'r trefniadau ar gyfer penderfynu pa le a pha bryd y gellir codi a gollwng teithwyr yn rhai y gall aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol fanteisio arnynt yn rhesymol aml;”.
(7) Yn lle paragraff (3)(c) rhodder—“
(c) bod yr aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud taith unigol rhwng dau fan aros (i'r graddau y darperir ar gyfer y teithiau hynny yn y manylion cofrestredig gan gofio am gyfyngiadau esgyn a disgyn) wrth dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth,
(ca) yn achos gwasanaeth hyblyg, bod y trefniadau archebu ymlaen llaw o'r math fel nad ydynt yn rhwystro aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol rhag gwneud taith unigol y darperir fel arall ar ei chyfer yn y manylion cofrestru;”.
(8) Ym mharagraff (3)(ch), yn lle “aelodau felly o'r cyhoedd” rhodder “aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Gorffennaf 2004