
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2004.
2 
Y dyddiad a bennwyd i adran 60 o'r Ddeddf ddod i rym yw'r 14 Gorffennaf 2004.
3 
Bydd unrhyw gam a gymerwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â darparu Cynllun Gofodol Cymru, gan gynnwys unrhyw ymgynghoriad gydag unrhyw berson mewn perthynas â darpariaethau'r Cynllun, i'w drin fel un a gymerwyd er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a osodwyd ar y Cynulliad Cenedlaethol gan adran 60 o'r Ddeddf, boed i'r cam hwnnw gael ei gymryd cyn y dyddiad a bennwyd gan erthygl 2 neu ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004