
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2004 neu wedyn.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau)1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£12,508” rhoddir “£12,846”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhoddir —“
(a) £79 where the relevant income does not exceed £11,935; and
(b) £41 where that income exceeds £11,935 but does not exceed £12,846.”.
(4) Yn rheoliad 4 —
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£11,639” rhoddir “£11,948”; a
(b) ym mharagraff (4) —
(i) yn lle “£11,639” rhoddir “£11,948”, a
(ii) yn lle “£11,460” rhoddir “£11,769”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004