
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003;
 ystyr “Rheoliadau UCD 2003” (“the 2003 PRU Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003).
3 
Yn rheoliad 5(1)(a) o Reoliadau 2003 mewnosoder y geiriau “dyddiad geni,” o flaen y gair “rhyw”.
4 
Yn rheoliad 6(1)(a) o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder y geiriau “dyddiad geni,” o flaen y gair “rhyw”.
5 

(1) Yn lle rheoliad 6(3) o Reoliadau 2003 rhodder —“
(3) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl.”
(2) Yn rheoliad 6(4), mewnosoder ar ôl y geiriau “rhaid iddo” y geiriau “, onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,”.
(3) Yn rheoliad 6(6) —
(i) yn y fersiwn Cymraeg, yn lle'r geiriau “y dylid derbyn disgybl yn ôl” rhodder y geiriau “na ddylid derbyn disgybl yn ôl”; a
(ii) ar ôl y geiriau “na ddylid derbyn disgybl yn ôl” (fel y'u hamnewidir gan baragraff (i) uchod) mewnosoder y geiriau “neu ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r pennaeth yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl”.
6 

(1) Yn lle rheoliad 7(3) o Reoliadau UCD 2003 rhodder—“
(3) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ai peidio ac os yw o'r farn y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ychwanegol ystyried a ddylai'r disgybl gael ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu ei dderbyn yn ôl erbyn dyddiad penodol ac ystyried os na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl.”
(2) Yn rheoliad 7(4), mewnosoder ar ôl y geiriau “rhaid iddo” y geiriau “, onid yw o'r farn na fyddai'n ymarferol i'r athro neu athrawes â gofal gydymffurfio â chyfarwyddyd yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl,”.
(3) Yn rheoliad 7(6), ar ôl y geiriau “na ddylid derbyn disgybl yn ôl” mewnosoder y geiriau “, neu, ar ôl penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, yn penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i'r athro neu athrawes â gofal yn mynnu bod y disgybl yn cael ei dderbyn yn ôl”.
7 
Ar ôl rheoliad 8 o Reoliadau 2003 mewnosoder —“
8A. 
Os yw'n fater —
(a) i'r pennaeth, wrth arfer pŵer a roddwyd gan adran 52(1) o Ddeddf 2002,
(b) i'r corff llywodraethu, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 6, neu
(c) i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7,i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.”.
8 
Ar ôl rheoliad 9 o Reoliadau UCD 2003 mewnosoder —“
9A. 
Os yw'n fater —
(a) i'r athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion, wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 52(2) o Ddeddf 2002,
(b) i'r awdurdod addysg lleol, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 7, neu
(c) i banel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel y'i haddaswyd, wrth arfer swyddogaethau o dan reoliad 8,i sefydlu unrhyw ffaith, rhaid penderfynu a gafodd y ffaith ei sefydlu yn ôl pwysau tebygolrwydd.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004