
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004 ac mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.
2 

(1) I'r graddau y mae'n rhoi pwerau i wneud rheoliadau, y diwrnod wedi'r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn yw'r diwrnod a benodir ar gyfer adran 58 i ddod i rym.
(2) 1 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod a benodwyd i'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf ddod i rym—
(a) adran 48 ac Atodlen 4;
(b) adran 57 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) adran 58 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ch) adran 67(1) a pharagraff 15(1) o Atodlen 5 i'r graddau y maent yn ymwneud â —
(i) paragraff 15(2); a
(ii) y rhan honno o baragraff 15(3) sy'n mewnosod y geiriau “making of direct payments to a person in respect of his securing provision of community care services or services to carers”, a'r cyfeiriadau cysylltiedig at Ran 4 o'r Ddeddf, yn Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970;
(d) adran 67(2) a Rhan 3 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn ymwneud a'r cofnodion yn Rhan 3 ynghylch—
(i) Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996;
(ii) Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Gorffennaf 2004