
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Athrawon Ysgol (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “cymhwyster Rheoliadau 1999”, a mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol —“
 ystyr “cymhwyster athrawon ysgol” (“school teachers' qualification”) yw cymhwyster sy'n rhoi i bersonau statws athrawon cymwysedig o fewn ystyr rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004;”.
(3) Yn rheoliad 3 yn lle is-baragraff (a) ym mhob un o baragraffau (2), (3) a (4) rhodder yr is-baragraff canlynol —“
(a) cymhwyster athrawon ysgol;”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 yn lle'r geiriau “y mae'n ofynnol” i'r diwedd rhodder y geiriau “y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 134(1) o Ddeddf Addysg 2002”.
(3) Yn rheoliad 4(4) yn lle paragraff (b) rhodder y canlynol —“
(b) ei bod yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 134(1) o Ddeddf Addysg 2002,”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a) yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gofrestredig” rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “athro neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person y rhoddwyd iddo awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999) cyn 1 Medi 2004;”;
(b) yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwys” rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “athro neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy'n bodloni gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 132 o Ddeddf 2002;”
(c) yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes raddedig” rhodder y diffiniad canlynol —“
 ystyr “athro neu athrawes raddedig” (“graduate teacher”) yw person y rhoddwyd iddo awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999 cyn 1 Medi 2004;”; ac
(ch) mewnosoder ar ôl y diffiniad o “y Cyngor” y diffiniad canlynol —“
 ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004;”.
(3) Yn rheoliad 6(2)(a)(i), mewnosoder ar ôl y geiriau “athro neu athrawes gofrestredig” y geiriau “neu ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth”.
(4) Yn y fersiwn Gymraeg o reoliad 8(1) a (2), rhodder y geiriau “athro neu athrawes gymwysedig” yn lle'r geiriau “athro neu athrawes gymwys”.
(5) Yn Atodlen 1 —
(a) yn lle paragraff 17 rhodder y paragraff canlynol —“
17. 
Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, a pharagraff 12 o Atodlen 2 iddynt.”;
(b) yn lle paragraff 18 rhodder y paragraff canlynol —“
18. 
Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, a pharagraff 13 o Atodlen 2 iddynt.”;
(c) ym mharagraff 20 rhodder yn lle is-baragraff (c) y canlynol —“
(c) sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddynt; a”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004