
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'r Rheoliadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.
(2) Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i gael effaith.
4 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
 ystyr “Rheoliadau 1959” (“the 1959 Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion 1959;
 ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982);
 ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989;
 ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993;ac
 ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999.
5 
Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 6 mewn ysgol onid ydynt —
(a) yn athrawon cymwysedig, neu
(b) yn bodloni'r gofynion a bennir yn Atodlen 2.
6 

(1) Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn —
(a) cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;
(b) cyflwyno gwersi i ddisgyblion;
(c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; ac
(ch) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.
(2) Ym mharagraff (1)(b) mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu dechnegau drwy gymorth cyfrifiadur.
7 
Dim ond os ydynt wedi'u cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol)) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
ATODLEN 1
Rheoliad 3
RHAN 1

Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu Cyfeirnod Graddau'r Dirymu
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999 O.S. 1999/2817 (Cy.18) Paragraffau 4, 6 a 7 o Ran II o Atodlen 1; Atodlen 2
Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000 O.S. 2000/3122 (Cy. 200) Y Rheoliadau cyfan
RHAN 2
1 

(1) Yn achos personau a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, bydd rheoliad 14 ac Atodlen 6 yn parhau i gael effaith hyd nes y cydymffurfir â'u holl ddarpariaethau.
(2) Nid yw athrawon —
(a) y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu
(b) a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,
i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.
2 

(1) Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997, Rheoliadau 1999, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004 a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion —
(a) caniatáu cyflogi fel athrawon mewn ysgol athrawon anghymwysedig a oedd yn athrawon trwyddedig neu'n athrawon a hyfforddwyd dramor fel y'u diffiniwyd ynddynt ar 30 Tachwedd 1997, a bydd y dyletswyddau a osodwyd ar y personau mewn cysylltiad â hynny yn parhau i fod yn gymwys; a
(b) penderfynu a oedd personau, a oedd ar 30 Tachwedd 1997 neu unrhyw bryd cyn hynny yn athrawon trwyddedig, athrawon a hyfforddwyd dramor neu'n athrawon cofrestredig fel y'u diffiniwyd ynddynt, yn athrawon cymwysedig.
(2) Caiff personau sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol yn rhinwedd paragraff (1)(a) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes iddynt beidio â bod yn gyflogedig felly.
3 
Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
4 
Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
ATODLEN 2
Rheoliad 5
1 
Yn yr Atodlen hon —
 ystyr “athrawon cofrestredig” (“registered teachers”) yw personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;
 ystyr “athrawon graddedig” (“graduate teachers”) yw personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004; ac
 ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw'r cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004.
2 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos —
(a) athrawon cynorthwyol mewn ysgol feithrin, neu
(b) athrawon dosbarth meithrin,
y caniatawyd eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael eu cyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn yr un swyddogaeth ag yr oedd yn cael eu cyflogi ynddi cyn 1 Medi 1989.
3 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol), y mae angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn cyflawni'r gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.
(2) Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol os, ar adeg eu penodiad —
(a) y mae'r awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu uned gyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu wrth weithredu gyda chytundeb yr awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig), neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol), yn ôl fel y diwgydd, wedi'i fodloni ynglyn â'u cymwysterau neu eu profiad neu'r ddau; a
(b) nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw.
(3) Dim ond am y cyfnod pan nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw y caiff personau sy'n cael eu penodi yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982 —
(a) os oedd eu penodiad am gyfnod penodedig, os a thra na fydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu
(b) os oedd eu penodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caiff personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) os ydynt wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a honno'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.
(2) Ni fydd is - baragraff (1) yn gymwys yn achos personau a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd ddirwyn i ben, gan ddechrau ar ba un bynnag o'r canlynol yw'r cynharaf —
(a) y diwrnod y maent yn cyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol yn rhinwedd y paragraff hwn am y tro cyntaf, neu
(b) y diwrnod y cawsant eu cyflogi gyntaf fel athrawon mewn ysgol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999.
5 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y pargraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
6 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
7 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod yn cwblhau'r hyforddiant hwnnw'n llwyddiannus neu'n peidio ag ymgymryd ag ef.
8 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac nad ydynt wedi'u crybwyll ym mharagraffau 2 i 7 o'r Atodlen hon.
(2) Dim ond os yw'r amodau canlynol yn cael eu bodloni y caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol —
(a) eu bod yn cyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon a enwebir yn yr ysgol;
(b) eu bod yn dod o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth y cyfryw athrawon cymwysedig neu athrawon a enwebir yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol; ac
(c) bod y pennaeth wedi'i fodloni bod ganddynt y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.
(3) Os ydynt yn barnu bod yr enwebiad yn briodol o dan yr amgylchiadau, caiff penaethiaid enwebu'n athrawon a enwebir at ddiben is-baragraff (2) bersonau a grybwyllwyd ym mharagraff 3, 4, 5, 6 neu 7 o'r Atodlen hon.
(4) Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, caiff penaethiaid ystyried —
(a) unrhyw safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel-uwch, neu ganllawiau ynglyn â staff cynnal ysgol, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) unrhyw ganllawiau ynglyn â materion contract sy'n berthnasol i staff cynnal ysgol a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan unrhyw awdurdod addysg lleol neu gyflogwr arall.