
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004.
(2) Ac eithrio erthygl 4(3) daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2004.
(3) Daw erthygl 4(3) i rym ar 31 Awst 2004
(4) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “yr enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religious denomination”) yw'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau mewn ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
2 
Dynodir yr ysgolion a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
3 
Yr enwad crefyddol perthnasol mewn perthynas ag ysgol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yw—
(a) Yr Eglwys yng Nghymru, yn achos ysgol a restrir yn Rhan I o'r Atodlen;
(b) Catholig, yn achos ysgol a restrir yn Rhan II o'r Atodlen; ac
(c) Eglwys Loegr yn achos ysgol a restrir yn Rhan III o'r Atodlen.
4 

(1) Diwygir Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw —
(a) hepgorwch y cofnodion ar gyfer:
(i) Jeffreyston Voluntary Controlled Primary School;
(ii) Manordeifi Upper Voluntary Controlled Primary School;
(iii) Ysgol Gynradd Wirfoddol Myddfai; a
(iv) Portskewett Voluntary Controlled Infants School; a
(b) hepgorwch y cofnod ar gyfer St. Paul’s Primary School o'r rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir a mewnosodwch gofnod union debyg ar gyfer St. Paul’s Primary School yn y rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir.
(3) Yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw hepgorwch y cofnod ar gyfer St Winefrides Roman Catholic School, Sir Ddinbych.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
YR ATODLEN
Rheoliadau 2 a 3
RHAN I

AALl Enw'r Ysgol Categori'r Ysgol
Sir Fynwy Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams — Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir
Sir Benfro Ysgol Gynradd Sant Oswallt — Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir
Powys Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanelwedd— Ysgol Wirfoddol a Reolir Ysgol Wirfoddol a Reolir
RHAN II

AALl Enw'r Ysgol Categori'r Ysgol
Sir Ddinbych Ysgol y Santes Ffraid Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir
RHAN III

AALl Enw'r Ysgol Categori'r Ysgol
Powys Ysgol Eglwys Loegr Sarn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir