
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn unig.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4 
1 Awst 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5 
1 Medi 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Gorffennaf 2004

RHAN 1

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 72 Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol 21 isod
Atodlen 9 Cynigion sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech — gweithredu
Atodlen 21 Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 100(3) 
RHAN 2

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 21 Cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg ysgol
Adran 22 Hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr
Adran 30 Adroddiadau llywodraethwyr a gwybodaeth arall
Adran 32 Cyfrifoldeb dros bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau
Adran 39(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diffiniad o “statutory provision” Dehongli Pennod 1
Adran 155 Arolygu addysg feithrin
Adran 176 Ymgynghori â disgyblion
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7 Arolygu addysg feithrin
Atodlen 21 — Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
Paragraff 39(1) a (5) 
Paragraff 63 ac eithrio is-baragraff (a) 
Paragraff 68 
Paragraff 110(1) a (3) ond at ddiben dileu paragraff (e) o is-adran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — Diddymiadau
Deddf Plant 1989, adran 79P(4)(d) a'r “and” sy'n dod o'i blaen; 
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.Adran 38, adrannau 41 a 42, adran 127(6)(e), yn adran 138, yn is-adran (4)(b), y geiriau “paragraph 4 or 8 of Schedule 23 or”, ac yn is-adran (5), paragraff (a)(ii) a (iii) ac, ym mharagraff (b)(ii), y gair “46”, yn Rhan II o Atodlen 11, paragraff 7, yn Atodlen 30, paragraff 204(b) 