
1 
Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2004, bydd yn gymwys yng Nghymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.
2 
Yn y Cynllun hwn —
 ystyr “busnes amaethyddol” (“agricultural business”) yw busnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
 mae i “slyri” yr un ystyr ag sydd i “slurry” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991;
 ystyr “parth perygl nitradau” (“nitrate vulnerable zone”) yw unrhyw ardal a ddynodwyd yn barth perygl nitradau gan baragraff 3B o Reoliadau Diogelu Rhag Llygredd Nitradau (Lloegr a Chymru) 1996.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi i unrhyw berson un neu fwy o grantiau i gynrychioli 40 y cant o'r gwariant a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg, sef gwariant sydd wedi'i dynnu ar ôl 29 Mehefin 2004 ond cyn 31 Hydref 2005 ac —
(a) sy'n wariant mewn perthynas â'r canlynol —
(i) darparu, amnewid neu wella —(aa) cyfleusterau (gan gynnwys ffensys diogelwch) ar gyfer trafod a storio tail, slyri ac elifiant silwair;(bb) cyfleusterau gwaredu sefydlog ar gyfer slyri ac elifiant silwair, neu(cc) cyfleusterau (heblaw toeon) ar gyfer gwahanu dŵr glân a dŵ r brwnt, os yw'r cyfleusterau hynny'n lleihau'r angen i storio slyri; neu
(ii) unrhyw waith, cyfleuster neu drafodyn (gan gynnwys gwaith cadwraeth neu waith hwyluso) o ganlyniad i unrhyw fater y gall grant gael ei dalu mewn perthynas ag ef o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn;
(b) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o natur cyfalaf neu ei fod wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur cyfalaf;
(c) sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn; ac
(d) nad yw'n fwy na chyfanswm o £85,000.
(2) Os yw'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bod gwariant y gwneir cais am grant mewn perthynas ag ef o dan is-baragraff (1) i'w dynnu yn rhannol at ddibenion rhedeg busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg ac yn rhannol at ddibenion eraill, caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r gwariant hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at redeg y busnes amaethyddol hwnnw fel pe bai wedi'i dynnu at ddibenion rhedeg y busnes amaethyddol neu mewn cysylltiad â'i redeg.
4 

(1) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ystyried cyfanswm nifer y ceisiadau am grantiau a gymeradwywyd neu a dderbyniwyd eisoes, ar unrhyw adeg o'r farn nad yw'r adnoddau ariannol sydd ar gael i dalu grantiau o dan y Cynllun hwn yn ystod unrhyw gyfnod yn ddigonol i fodloni unrhyw daliad yn ystod y cyfnod a fyddai'n ganlyniad cymeradwyo unrhyw gais pellach, caiff, mewn perthynas ag unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond na chafodd ei dderbyn hyn yn hyn, neu unrhyw gais a all ddod i law yn ystod y cyfnod perthnasol —
(a) atal ystyriaeth bellach ar unrhyw gais o'r fath tan yr amser y caiff bennu wedyn; neu
(b) gwrthod unrhyw gais o'r fath heb ystyriaeth bellach.
(2) Rhaid cyhoeddi hysbysiad —
(a) o benderfyniad —
(i) i atal ystyriaeth o unrhyw gais o dan is-baragraff (1)(a), neu
(ii) i wrthod unrhyw gais heb ystyriaeth bellach o dan is-baragraff (1)(b); neu
(b) o derfynu'r cyfnod perthnasol, yn y London Gazette.
(3) Yn is-baragraffau (1) a (2), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod sy'n dechrau drannoeth ar ôl y dyddiad penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), neu unrhyw ddyddiad wedyn a bennir ganddo mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(a), ac sy'n diweddu ar y dyddiad y caiff bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b).
5 
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â thalu grant o dan is-baragraff (1) o baragraff 3 —
(a) mewn perthynas ag unrhyw fusnes amaethyddol sy'n cael ei redeg yn rhannol o leiaf ar dir sydd wedi'i leoli mewn parth perygl nitradau;
(b) onid yw wedi'i fodloni y bydd y gwariant y mae'r grant i'w thalu tuag ato yn golygu lles amgylcheddol a fydd yn cronni i'r parth perygl nitradau o dan sylw;
(c) onid yw gofynion Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 wedi'u bodloni;
(d) os yw amcan y gwariant, y gwneir y cais am grant mewn perthynas ag ef, yn gynnydd mewn cynhyrchiant na ellir dod o hyd i allfeydd marchnata cyffredin ar ei gyfer; neu
(e) pe byddai'r cyfan neu ran o grant o'r fath yn dyblygu cymorth a ddarperir neu sydd i'w ddarparu o arian gan—
(i) y Gymuned Ewropeaidd;
(ii) y Senedd; neu
(iii) corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.
6 

(1) Rhaid i unrhyw gais am grant o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf, yn y modd ac erbyn y dyddiad y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu pennu, a rhaid i'r ceisydd o dan sylw roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch y cais y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt, gan gynnwys, pan bennir hynny, y dogfennau a'r cofnodion perthnasol.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybod yn ysgrifenedig i geisydd a yw'r cais yn gymwys neu beidio, ac os nad yw'n gymwys, rhaid iddo roi'r rhesymau.
7 

(1) Dirymir Cynllun Grantiau Gwastraff Fferm (Parthau Perygl Nitradau) (Cymru) 2001 (a ddisodlir gan yr offeryn hwn).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mehefin 2004