
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Gorchymyn 2001” (“the 2001 Order”) yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001.
3 
Ar ôl Erthygl 3 o Orchymyn 2001 mewnosoder —“
4. 

(1) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n sir, yn fwrdeistref sirol, yn gyngor cymuned neu'n awdurdod tân, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw —
(a) adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(b) adran 30(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974;
(c) unrhyw reoliadau a wnaed neu god a gyhoeddwyd o dan adrannau 19 ac 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(2) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n awdurdod Parc Cenedlaethol, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod ymddygiad o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw —
(a) paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995; a
(b) adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Rhaid i adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978) fod yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mehefin 2004