
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Cymru) 2004, a daw i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod yng Nghymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw—
(a) cyngor sir,
(b) cyngor bwrdeistref sirol, ac
(c) cyngor cymuned.
3 
Pan fydd awdurdod wedi mabwysiadu darpariaethau gorfodol cod ymddygiad enghreifftiol a wnaed o dan adran 50(2) o Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac sy'n gymwys i'r cyngor hwnnw, neu pan fydd darpariaethau gorfodol cod o'r fath yn gymwys i aelodau'r cyngor hwnnw yn unol ag adran 51(5)(b) o'r Ddeddf honno, rhaid i ddatganiad derbyn swydd —
(a) aelod; a
(b) maer etholedig,fod naill ai ar y ffurf Saesneg a geir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn neu ar y ffurf Gymraeg a geir yn Atodlen 2, neu ar ffurf ac iddi effaith debyg.
4 
Dirymir y gorchmynion canlynol ar 1 Medi 2004 —
(a) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990;
(b) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990;
(c) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Ffurflenni Cymraeg) 1991; a
(ch) Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mehefin 2004
ATODLEN 1
Erthygl 3

ATODLEN 2
Erthygl 4
