
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriannau 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) daw adrannau 4, 5, 9, 10, 19 a 35(a) ac (c) o Ddeddf Masnachu Gwastraff ac Allyriannau 2003 i rym ar 25 Mehefin 2004.
(2) Mae adrannau 4, 5, 9, 10 a 35(a) yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mehefin 2004