
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004 ac yn dod i rym ar 1 Mehefin 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “achwynydd” (“complainant”) yw person sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu blentyn sy'n gwneud sylwadau o dan adran 26 o'r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “eiriolwr” (“advocate”) yw person sy'n rhoi cymorth o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf;
 ystyr “gwasanaethau eirioli” (“advocacy services”) yw'r cymorth a ddarperir o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf;
 ystyr “y Rheoliadau Sylwadau” (“the Representations Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991.
3 
Ni chaiff person roi cymorth o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf i bersonau sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu sy'n bwriadu eu gwneud neu i blentyn sy'n gwneud sylwadau o dan adran 26 o'r os yw'r person hwnnw—
(a) yn destun y sylwadau neu os gall fod yn destun y sylwadau;
(b) yn gyfrifol am reoli person sy'n destun y sylwadau neu os gall fod yn destun y sylwadau;
(c) yn rheoli gwasanaeth sy'n destun y sylwadau neu os gall fod mai'r gwasanaeth hwnnw yw testun y sylwadau;
(ch) yn berson a chanddo reolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i wasanaeth sy'n destun y sylwadau neu os gall fod mai'r gwasanaeth hwnnw yw testun y sylwadau;
(d) yn gysylltiedig ag ystyried y sylwadau ar ran yr awdurdod lleol neu os bydd o bosibl yn gysylltiedig â hynny.
4 

(1) Pan ddaw awdurdod lleol i wybod bod person neu blentyn yn bwriadu gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, o dan adran 26 o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod—
(a) rhoi gwybodaeth am wasanaethau eirioli i'r person neu'r plentyn hwnnw; a
(b) cynnig help i'r person neu'r plentyn hwnnw i gael eiriolwr.
(2) Pan fydd awdurdod lleol yn derbyn sylwadau gan achwynydd rhaid iddo—
(a) rhoi gwybodaeth i'r achwynydd am wasanaethau eirioli; a
(b) cynnig help i'r achwynydd i gael eiriolwr.
5 

(1) Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r trefniadau y mae wedi'u gwneud gyda'r bwriad o sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn drwy gadw cofnod o'r canlynol—
(a) pob achos a ystyriwyd gan yr awdurdod lleol y defnyddiodd yr achwynydd eiriolwr mewn cysylltiad ag ef; a
(b) o ba gorff (os o gwbl) y deuai'r eiriolwr; a
(c) barn yr achwynydd (os o gwbl) am y cymorth a ddarparwyd gan yr eiriolwr.
(2) At ddibenion monitro o'r fath, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, lunio adroddiad ar y modd y gweithredwyd y weithdrefn a nodir yn y Rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod hwnnw.
(3) Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2) o fewn deuddeng mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.
6 

(1) Caiff y Rheoliadau Sylwadau eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) ar ôl y diffiniad o “representations” mewnosoder—“
 “section 26A advocate” means a person who is appointed to provide assistance to the complainant under arrangements made by a local authority under section 26A(1) of the Act.”.
(3) Yn rheoliad 4 (rhagarweiniad), ym mharagraffau (2) a (2A) ar ôl y gair “complainant” mewnosoder “and any section 26A advocate”.
(4) Yn rheoliad 7 (tynnu sylwadau yn ôl) ar ôl y gair “them” mewnosoder “or any section 26A advocate acting on behalf of that person”.
(5) Yn rheoliad 8 (hysbysu achwynydd a chyfeirio at banel)—
(a) ym mharagraff (1)(a) ar ôl y gair “complainant” mewnosoder “and any section 26A advocate”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl y gair “complainant” mewnosoder “, or any section 26A advocate on behalf of that person”;
(c) ym mharagraff (5)(a) ar ôl y gair “complainant” mewnosoder “(or any section 26A advocate on behalf of that person)”; ac
(ch) ym mharagraff (6) ar ôl y gair “meeting” yr ail dro y mae'n ymddangos mewnosoder “by any section 26A advocate or” ac ar ôl y gair “nominate” mewnosoder “the section 26A advocate or”.
(6) Yn rheoliad 9(2)(b) (argymhellion) ar ôl y gair “complainant” mewnosoder “and any section 26A advocate”.
7 

(1) Pan fydd achwynydd, ar adeg dod i rym y Rheoliadau hyn, wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ac nad yw'r weithdrefn ar gyfer ystyried y sylwadau wedi dod i ben, yna mae'n rhaid i'r awdurdod lleol roi i'r achwynydd yr wybodaeth a'r cymorth y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol eu darparu o dan reoliad 4.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae'r weithdrefn ar gyfer ystyried y sylwadau i'w thrin fel pe bai wedi dod i ben unwaith y bo'r panel wedi ystyried y sylwadau yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau Sylwadau, a hynny hyd yn oed os na fydd y panel wedi gwneud argymhelliad yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Sylwadau.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mai 2004