
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor unrhyw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr o sefydliadau a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 4;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “ y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/4/EC ar gofrestru sefydliadau sy'n cadw ieir dodwy, a gwmpasir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC;
 ystyr “ieir dodwy” (“laying hens”) yw ieir o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi aeddfedu ac a gedwir i gynhyrchu wyau na fwriedir eu deori; ac
 ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw unrhyw safle cynhyrchu lle y cedwir ieir dodwy.
3 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau —
(a) y mae ganddynt lai na 350 o ieir dodwy; neu
(b) sy'n magu ieir dodwy ar gyfer eu bridio.
4 

(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio a chynnal cofrestr o sefydliadau.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn amser rhesymol ar ôl iddo gael cais i gynnwys sefydliad ar y gofrestr roi Rhif adnabod a gyfansoddwyd yn unol â'r Gyfarwyddeb i'r sefydliad hwnnw a rhoi gwybod am y Rhif hwnnw i'r ymgeisydd.
5 

(1) Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd yr hawl i weld y gofrestr er mwyn olrhain wyau a roddwyd ar y farchnad i gael eu bwyta gan bobl.
(2) Mae gan yr awdurdod lleol hawl i weld y gofrestr er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
6 

(1) Ar ôl 30 Mehefin 2004 ni chaiff neb barhau â gweithredu sefydliad sy'n gweithredu ar y dyddiad hwnnw oni bai bod cais wedi ei wneud i gynnwys y sefydliad hwnnw ar y gofrestr.
(2) Ni chaiff neb ddechrau gweithredu sefydliad ar ôl 30 Mehefin 2004 oni bai bod cais wedi ei wneud i gynnwys y sefydliad hwnnw ar y gofrestr a bod Rhif adnabod wedi ei roi i'r ymgeisydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i geisiadau gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen a honno ar y ffurf y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani.
(4) Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid yn yr wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod.
7 

(1) Bydd hawl gan swyddog a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol, os bydd ganddo ddogfen y gellir ei gwirio'n ddilys ac sy'n dangos ei awdurdod, ac os bydd yn ei dangos os gofynnir iddo wneud hynny, i fynd ar unrhyw dir neu safle ar unrhyw awr resymol at ddibenion canfod a gafodd y Rheoliadau hyn eu torri, neu a ydynt yn cael eu torri, ar y safle hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.
(2) Bydd gan swyddog o'r fath bwerau i wneud pob gwiriad ac archwiliad sydd eu hangen i orfodi'r Rheoliadau hyn, ac yn benodol fe gaiff archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data.
8 

(1) Ni chaiff neb —
(a) rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sy'n gweithredu wrth iddo roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) heb achos rhesymol, fethu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu wrth iddo roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu
(c) rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu wrth iddo roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anghywir.
(2) Ni chaiff dim byd ym mharagraff (1)(b) uchod ei ddehongli fel ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno ef ei hun pe bai'n gwneud hynny.
9 

(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson sy'n cymryd arno weithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn cysylltiad â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
10 

(1) Mae person sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gael ei garcharu am dymor heb fod yn hwy na thri mis neu ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
11 
Yr awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol sydd i orfodi'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mai 2004
YR ATODLEN
1 
Gwybodaeth am y sefydliad:
(a) enw'r sefydliad;
(b) cyfeiriad y sefydliad;
(c) y dull neu'r dulliau ffermio a weithredir yn y sefydliad (organig, cadw ieir mewn buarth, ysgubor neu gawell);
(ch) y nifer uchaf o ieir y gellir eu ffermio yn ôl pob dull ffermio a weithredir yn y sefydliad, wedi ei nodi fel y nifer uchaf o ieir dodwy sy'n bresennol ar unrhyw un adeg sydd yn cael eu ffermio yn y dull hwnnw.
2 
Gwybodaeth am geidwad yr ieir:
(a) enw ceidwad yr ieir;
(b) cyfeiriad ceidwad yr ieir;
(c) os yw ceidwad yr ieir yn berchen ar unrhyw sefydliad arall a gofrestrir o dan y rheoliadau hyn, neu'n cadw sefydliad o'r fath, Rhif cofrestru pob un sefydliad o'r fath.
3 
Gwybodaeth am y perchennog, os nad y perchynnog yw ceidwad yr ieir:
(a)  enw'r perchennog;
(b) cyfeiriad y perchennog;
(c) os yw'r perchennog yn berchen ar unrhyw sefydliad arall a gofrestrir o dan y rheoliadau hyn, neu'n ei gadw, Rhif cofrestru pob un sefydliad o'r fath.