
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
2 

(1) Diwygir Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliadau 2(1), 3(1)(a), 4(3), 7(2), a 9(2) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol” yn lle “Awdurdod Iechyd”.
(3) Ar ôl rheoliad 10(2), rhodder —“
(2A) Pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen, caiff cydbwyllgor sy'n cael ei ffurfio o dan baragraff (2) gynnwys unrhyw aelod o'r awdurdod p'un a yw'r aelod hefyd yn aelod o weithrediaeth neu Fwrdd yr awdurdod.”.
(4) Ar ôl rheoliad 10(4), ychwaneger —“
(4) Ym mharagraff (2A) —
 “Mae i “Bwrdd” (“Board”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001;
 Mae i “gweithrediaeth” a “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive” ac “executive arrangements” yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);
 Mae i “trefniadau amgen” yr ystyr a roddir i “alternative arrangements” yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Mai 2004