
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995.
3 
Mae Rheoliadau 1995 yn cael eu diwygio fel a ganlyn:
(a) hepgorir Rheoliad 4(2)(d);
(b) hepgorir Rheoliad 7(1)(e).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mai 2004