
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 30 Ebrill 2004.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “yr Atodlen” yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “Rheoliad 2529/01 y Cyngor” (“Council Regulation 2529/01”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2529/01 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr;
 ystyr “Rheoliad 1251/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1251/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol;
 ystyr “Rheoliad 1254/99 y Cyngor” (“Council Regulation 1254/99”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, neu gynnyrch amrywiol, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 6 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2002 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fydd tir y gellir ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu wedi'i ddynodi fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna —
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2003 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
3 
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Ebrill 2004
YR ATODLEN
Erthyglau 1(2) a 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu
  £
1. Da byw
Buchod llaeth:  
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 373
Bridiau eraill buwch 460
Buchod bridio cig eidion:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 buwch 43(1)
Ar dir arall buwch 73(1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 75(2)
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 35(3)
Mamogiaid:  
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 mamog 11(4)
Ar dir arall mamog 19(5)
Ŵ yn stôr (gan gynnwys ŵ yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 1.00
Moch:  
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 85
Moch porc pen 1.75
Moch torri pen 3.25
Moch bacwn pen 5.00
Dofednod:  
Ieir dodwy aderyn 1.00
Brwyliaid aderyn 0.12
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.25
Tyrcwn Nadolig aderyn 2.00
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 186(6)
Ffa hectar 169(7)
Had glaswellt hectar 100
Ceirch hectar 190(8)
Rêp had olew hectar 171(9)
Pys:  
Sych hectar 194(10)
Dringo hectar 175
Tatws:  
Cynnar cyntaf hectar 800
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 750
Betys siwgr hectar 240
Gwenith hectar 223(11)
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
Ffa cyffredin hectar 500
Ysgewyll Brwsel hectar 1400
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1800
Moron hectar 2700
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 975
Seleri hectar 8000
Cennin hectar 3200
Letys hectar 4150
Wynwns:  
Bylbiau sych hectar 1305
Salad hectar 3800
Pannas hectar 2850
Riwbob (naturiol) hectar 6000
Maip a swêds hectar 1300
4. Ffrwythau'r berllan
Afalau:  
Seidr hectar 380
Coginio hectar 1150
Melys hectar 1250
Ceirios hectar 800
Gellyg hectar 900
Eirin hectar 1150
5. Ffrwythau meddal
Cyrens Duon hectar 800
Mafon hectar 3000
Mefus hectar 4000
6. Amrywiol
Hopys hectar 1700
7. Tir Porthiant
Tir cymwys fel y'i disgrifir yn rheoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 hectar swm y taliad Tir Mynydd y mae'n rhaid ei dalu o dan Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
8. Neilltir
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fydd tir o'r fath yn cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1251/99) ar gyfer darparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned nad ydynt wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid hectar 51
NODIADAU I'R ATODLEN
(1) Didynner £124 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo.
Ychwaneger £25 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £50 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis.
Didynner £105 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £25 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu.
Ychwaneger £50 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £105 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £105 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £105 ac (pan fydd yr incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £25 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa is) neu £50 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa uwch).
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.
(4) Didynner £18 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad 2529/01 y Cyngor ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr.
(5) Didynner £14 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm defaid blynyddol.
(6) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.
(7) Didynner £288 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(8) Didynner £249 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(9) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(10) Didynner £291 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.
(11) Didynner £250 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd.