
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2004.
(2) Yn Gorchymyn hwn, cyfeirir at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 fel "y Ddeddf".
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
24 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 6(3) o'r Ddeddf ddod i rym.
3 
31 Ionawr 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 12 o'r Ddeddf ddod i rym.
4 
1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adran 49 o'r Ddeddf ddod i rym i'r graddau na chafodd yr adran honno ei dwyn i rym eisoes.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Ionawr 2004