
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw yw £18.40 yr wythnos.
3 
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2003 drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004