
1 

(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 12 Ebrill 2004.
(2) Yn y rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf), yn lle'r ffigur “£20,000”, rhodder y ffigur “£20,500”.
(3) Yn rheoliad 28(1) (Cyfrifo incwm tariff o'r cyfalaf), yn lle'r ffigur “£12,250”, lle mae'n ymddangos, rhodder y ffigur “£13,500” ac yn lle'r ffigur “£20,000”, rhodder y ffigur “£20,500”.
3 
Ym mharagraff 28H o Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau—
(a) yn lle'r ffigur “£4.50” rhodder y ffigur “£4.75” ble bynnnag y mae'n ymddangos;
(b) yn is-baragraffau (3) a (4), yn lle'r ffigur “£6.75” rhodder y ffigur “£6.95” ble bynnag y mae'n ymddangos;
(c) dileer is-baragraff (5) ac yn ei le rhodder yr is-baragraff canlynol—“
(5) Where,
(a) the sum referred to in sub-paragraph (4) has been disregarded in the assessment of the resident’s partner’s income under these Regulations, or,
(b) the partner referred to in paragraph (4)(a) is in receipt of savings credit,
sub-paragraph (4) does not apply to the resident.”.
Dirymir rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2003).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2004