
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran yn Neddf Safonau Gofal 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2 
1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 8, 9(2) a (3), 10(2) i (7), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 ddod i rym i'r graddau y mae'u darpariaethau yn ymwneud ag asiantaethau gofal cartref ac nad ydynt eisoes mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2004