
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ffurflen” ( “the Form”) yw Ffurflen 21 fel y cafodd ei hamnewid yn Atodlen 1 i'r Prif Reoliadau;
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) 1966.
2 
Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau—
(a) yn y golofn gyntaf, yn lle'r geiriau “ten pounds” rhodder y geiriau “twenty pounds”; a
(b) yn yr ail golofn, yn lle'r symiau “£6.00” a “50p” rhodder y symiau “£14.00” a “£1.00” yn eu trefn.
3 
Yn y rhan o'r Ffurflen o dan y pennawd “FEES”, yn lle'r symiau “£6.00”, “50p” a “£10.00”, rhodder y symiau “£14.00”, “£1.00” a “£20.00” yn eu trefn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Ebrill 2003