
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn Rheoliad 19(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(ffitrwydd gweithwyr) yn lle'r geiriau “1 Ebrill 2003” rhodder y geiriau “31 Hydref 2004”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 .
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003