
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 30 Mai 2003.
2 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2001/30/EC” rhoddir y geiriau “, Commission Directive 2001/30/EC and Commission Directive 2002/82/EC”.
3 

(1) Hepgorir paragraff (2) o reoliad 9 (diwygiadau canlyniadol) Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru, dylid dehongli cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1997), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999, Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2000), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001, Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002 a'r Rheoliadau hyn:
 Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966;
 Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976);
 Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976;
 Rheoliadau Suddion Ffrwythau a Nectarau Ffrwythau 1977);
 Rheoliadau Llaeth Tewychedig a Llaeth Sych 1977;
 Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981;
 Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984;
 Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992;
 Rheoliadau Labelu Bwyd 1996).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
