
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Gorchymyn BG ” (“the BG Order”) yw Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000.
 ystyr “Gorchymyn Railtrack” (“the Railtrack Order”) yw Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000).
 ystyr “Gorchymyn yr Ymgymerwyr Dŵr” (“the Water Undertakers Order”) yw Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000.
2 
Yn y Gorchymyn Ymgymerwyr Dŵr —
(a) yn erthygl 2(1) ar ôl y diffiniad o “y fformwla safonol” mewnosoder “ystyr “y rhestr ardrethu ganolog” (“the central rating list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000;”;
(b) yn erthygl 5 ar ôl y dyddiad “1 Ebrill 2000” lle mae'n ymddangos gyntaf mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ardrethu ganolog mewn grym ar ei chyfer”;
(c) yn erthygl 7(1) ar ôl y gair “flwyddyn” lle mae'n ymddangos gyntaf mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ardrethu ganolog mewn grym ar ei chyfer”; a
(ch) yn erthygl 7(2) ar ôl y gair “flwyddyn” lle mae'n ymddangos gyntaf mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ardrethu ganolog mewn grym ar ei chyfer”.
3 
Yng Ngorchymyn BG yn erthygl 3 yn lle'r geiriau “sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000” mewnosoder y geiriau “y mae rhestr ardrethu annomestig canolog Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 mewn grym ar ei chyfer”.
4 
Yng Ngorchymyn Railtrack —
(a) yn erthygl 2 yn y diffiniad o “rhestr ganolog” hepgorer y geiriau “neu ar ôl hynny”; a
(b) yn erthygl 5(1) ar ôl y gair “flwyddyn” mewnosoder y geiriau “y mae'r rhestr ganolog mewn grym ar ei chyfer”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
27 Mawrth 2003