
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003.
(2) Mae'r Erthygl hon ac Erthygl 2(1) a (2), o'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Medi 2003.
(3) Mae Erthygl 2(3) yn dod i rym ar 1 Medi 2004.
2 

(1) Caiff Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (b) mewnosodir —“
(ba) provision for personal and social education for all registered pupils at the school who are of compulsory school age,”.
(3) Ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir yn unol â pharagraff (2)) mewnosodir —“
(bb) provision for work-related education for all registered pupils at the school during the fourth key stage,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003