
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol Rhad ac am Ddim) (Credydau Treth Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 6 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “Ddeddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996.
 mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002.
 ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw'r incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002.
3 
Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol —
(a) pan fydd gan y rhiant â hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a
(b) pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003