
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeg mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
 ystyr “cyfran ysgol o'r gyllideb” (“school’s budget share”) yw cyfran ysgol o'r gyllideb o fewn ystyr adran 47(1) o Ddeddf 1998;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “datganiad alldro” (“outturn statement ”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(2) o Ddeddf 1998;
 ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei gyhoeddi yn unol ag adran 52(1) o Ddeddf 1998 a Rheoliadau 2002;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002;
 ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r Rhif hwnnw.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000 yn cael eu dirymu.
(2) Er hynny, fe fydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000 a chyn 1 Ebrill 2002.
4 

(1) Rhaid paratoi datganiad alldro yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(2) Rhaid i ddatganiad alldro gynnwys pennawd ar frig y tudalen cyntaf yn nodi mai datganiad alldro ydyw, enw'r awdurdod y paratowyd y datganiad ganddo a'r flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.
5 

(1) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn datganiad alldro mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r Rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw —
(a) swm cyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati ac a gynhwyswyd yn Rhan I o ddatganiad cyllideb yr awdurdod;
(b) manylion unrhyw godiadau neu ostyngiadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb o fewn y flwyddyn yn sgil unrhyw ailbenderfynu ar ei chyfran o'r gyllideb yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999;
(c) manylion unrhyw symiau a ddyrannwyd i'r ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (a) neu (b);
(ch) y cyfanswm a ddyrannwyd i'r ysgol gan yr awdurdod yn y flwyddyn ariannol honno;
(d) y balans a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb mewn unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;
(dd) y swm sydd i'w gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol honno neu am unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol;
(e) cyfanswm y gwariant a briodolwyd i'r ysgol, a geir drwy adio'r gwahaniaeth rhwng y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) a'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) i'r cyfanswm y trefnwyd ei fod ar gael i'r ysgol gan yr awdurdod;
(f) unrhyw swm a driniwyd gan yr awdurdod fe pe bai'n incwm a briodolwyd i'r ysgol (ac nad yw wedi'i adlewyrchu yn unrhyw un o'r symiau a bennwyd yn y datganiad alldro yn rhinwedd is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) uchod).
6 
Rhaid i bob datganiad alldro gael ei gyhoeddi —
(a) drwy roi copi i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7; a
(b) drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl yn holl swyddfeydd addysg yr awdurdod.
7 

(1) Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i unrhyw iaith neu feddalwedd cyfrifiadur a ddefnyddir i ddarparu'r tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.
8 
Rhaid i ddatganiad alldro gael ei gyhoeddi cyn y 1 Hydref nesaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n cyfeirio ati.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003