
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “Credyd Treth i Blant” a “Credyd Treth i Bobl sy'n Gweithio” yr ystyr a roddir i “Child Tax Credit” a “Working Tax Credit” yn Neddf Credydau Treth 2002.
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996; ac
 ystyr “incwm blynyddol” (“annual income”) yw yr incwm am y flwyddyn dreth sydd yn cael ei gyfrifo yn unol â Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002).
3 
Mae cymorth a ddarperir i riant o dan Ran 6 o Ddeddf Llochesu a Mewnfudo 1999 yn cael ei ragnodi ar gyfer dibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996.
4 
Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 o dan yr amgylchiadau canlynol:
(a) pan fydd gan riant hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio, a
(b) pan fod y rhiant yn derbyn Credyd Treth i Blant drwy rinwedd dyfarniad sydd wedi ei selio ar incwm blynyddol heb fod yn fwy na'r swm a bennwyd at ddibenion adran 7(1)(a) o Ddeddf Credydau Treth 2002 fel trothwy incwm ar gyfer Credyd Treth i Blant.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mawrth 2003