
1 

(1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “Awdurdod Iechyd” (“Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd yng Nghymru a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996;
 ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003;
 ystyr “cyflogai CCE” (“EES employee”) yw person y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
 ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson —
(a) nad yw ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod y cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); a
(b) sydd wedi cael cynnig swydd gyflogedig gyda Bwrdd Iechyd Lleol a bennir yng Ngholofn (2) o'r Atodlen, ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol â'r Cynllun Cyflogaeth Estynedig;
 ystyr “Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“Extended Employment Scheme”) yw cynllun sy'n darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn cyflogi, am gyfnod nad yw'n hwy na 12 mis ac sy'n dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogi wedi'u trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003);
 ystyr “dyddiad diswyddo” (“redundancy date”) yw'r dyddiad y mae person y mae erthygl 5 yn gymwys iddo yn cael hysbysiad ei fod wedi'i ddiswyddo;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2003; ac
 ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Powys” (“the Powys NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992.
3 
Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth cyflogai perthnasol gydag awdurdod iechyd a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i Fwrdd Iechyd Lleol (sef un o'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen) sydd wedi cynnig swydd gyflogedig i'r cyflogai perthnasol a bod yntau wedi'i derbyn.
4 
Yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a gâi ei gyflogi, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, gan Ymddiriedolaeth GIG Powys, ac nad yw ei gontract cyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth GIG Powys wedi terfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall) i Fwrdd Iechyd Lleol Powys.
5 

(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i berson
(a) y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 neu 4;
(b) nad yw ei gontract cyflogaeth gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw wedi terfynu cyn y dyddiad diswyddo (p'un ai am fod cyfnod o rybudd wedi dod i ben, am fod amser wedi mynd heibio neu am reswm arall); ac
(c) y datganwyd ei fod wedi'i ddiswyddo o'i swydd gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw yn afreidiol ar unrhyw adeg rhwng y dyddiad trosglwyddo a 31 Mawrth 2004.
(2) Yn effeithiol o'r dyddiad diswyddo, rhaid trin contract cyflogaeth rhwng person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a'r Bwrdd Iechyd Lleol yr oedd yn cael ei gyflogi ganddo fel petai'n gontract cyflogaeth am dymor penodedig a wnaed yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.
(3) Bydd erthygl 6 o Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 (Trosglwyddo cyflogeion CCE o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig) yn gymwys i berson y mae ei gontract cyflogaeth wedi'i drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan baragraff (2) fel petai'r person hwnnw yn gyflogai CCE.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003
YR ATODLEN
Erthygl 3


Colofn 1 Colofn 2
Awdurdodau Iechyd Byrddau Iechyd Lleol
Bro TâfDyfed PowysGogledd CymruGwentMorgannwg AbertaweBlaenau GwentBro MorgannwgCaerdyddCaerffiliCasnewyddCastell-nedd PortTalbotCeredigionConwyGwyneddMerthyr TudfulPen-y-bont ar OgwrPowysRhondda Cynon TâfSir BenfroSir DdinbychSir FynwySir GaerfyrddinSir y FflintTor-faenWrecsamYnys Môn