
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Diddymu) 2003.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003.
2 
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Powys (Sefydlu) 1992, ac yn unol â hynny dirymir drwy hyn y Gorchymyn hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
19 Mawrth 2003