
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003 yn union ar ôl i'r prif Orchymyn ddod i rym.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn”(“the principal Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 

(1) Diwygir y prif Orchymyn yn unol â pharagraffau canlynol yr erthygl hon.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol:“
 ystyr “cyflogai sy'n trosglwyddo” (“transferring employee”) yw person
(a) nad yw ei gontract cyflogaeth gyda chyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru neu awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru wedi dod i ben cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser, neu fel arall);
(b) y mae ei waith o dan y contract hwnnw wedi cynnwys cyflawni swyddogaethau awdurdod iechyd Cymreig cyn y dyddiad trosglwyddo; ac
(c)  a gafodd gynnig cyflogaeth ac a'i derbyniodd cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru.”.
(3) Ar ôl erthygl 4 (trosglwyddo cyflogeion perthnasol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), ychwaneger yr erthygl ganlynol —“
4A. 
Pan fydd cyflogai sy'n trosglwyddo yn dechrau cyflogaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar y dyddiad trosglwyddo bydd y cyfnod cyflogaeth gyda'i gyflogwr yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn —
(a) cyfrif fel cyfnod cyflogaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a
(b) yn cael ei drin fel cyflogaeth barhaus gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion adran 218(3) Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2003