
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “cyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“EES employee”) yw person y cafodd ei gontract cyflogaeth ei drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig yn unol ag erthygl 5;
 ystyr “Cynllun Cyflogaeth Estynedig” (“Extended Employment Scheme”) yw cynllun sy'n darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Powys gyflogi, am gyfnod heb fod yn fwy na 12 mis gan ddechrau ar y dyddiad trosglwyddo, bersonau y mae eu contractau cyflogaeth yn cael eu trosglwyddo i Fwrdd Iechyd Lleol Powys yn unol ag erthygl 5;
 ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person —
(a) y mae ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd Cymreig heb gael ei derfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall); a
(b) a gafodd gynnig cyflogaeth ac a'i derbyniodd cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “cyflogai gweddilliol” (“residual employee”) yw person —
(a) y mae ei gontract cyflogaeth gydag awdurdod iechyd Cymreig heb gael ei derfynu cyn y dyddiad trosglwyddo (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall); a
(b) na chafodd gynnig cyflogaeth neu na dderbyniodd gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (heblaw gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig).
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2003; ac
 ystyr “awdurdod iechyd Cymreig” (“Welsh health authority”) yw awdurdod iechyd a sefydlwyd gan Orchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996, ac a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
3 
Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir holl swyddogaethau pob un o'r awdurdodau iechyd Cymreig mewn perthynas â'r ardal gyfan y mae pob un o'r awdurdodau yn gweithredu ar ei chyfer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4 
Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai perthnasol ac awdurdod iechyd Cymreig ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
5 
Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai gweddilliol ac awdurdod iechyd Cymreig ei drin fel pe bai'n gontract cyflogaeth am gyfnod penodedig a i ddod i ben ar 31 Mawrth 2004 gafodd ei wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai gweddilliol a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.
6 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i gyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig na therfynwyd ei gontract cyflogaeth (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall).
(2) Yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a Bwrdd Iechyd Lleol Powys, os cafodd y cyflogai hwnnw gynnig cyflogaeth a'i derbyn —
(a) gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol (heblaw Bwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig); neu
(b) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru,
ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng cyflogai y Cynllun Cyflogaeth Estynedig a Bwrdd Iechyd Lleol o'r fath neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
7 
Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, diddymir pob un o'r awdurdodau iechyd Cymreig.
8 
Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau awdurdodau iechyd Cymreig na throsglwyddwyd i Fwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2003 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
9 
Diddymir Gorchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003
YR ATODLEN
Erthygl 2

Yr awdurdodau iechyd Cymreig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt yw —
 Bro Tâf
 Dyfed Powys
 Gwent
 Morgannwg
 North Wales Gogledd Cymru
