
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at y “prif Orchymyn” yn gyfeiriad at Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999.
3 
Yn erthygl 3 (Mwyafswm disgowntau) o'r prif Orchymyn yn lle'r ffigur “£24,000” rhodder y ffigur “£16,000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mawrth 2003