
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
2 
Diwygir paragraff 47A o Atodlen 2 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —
(a) ym mharagraff 6(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
(b) ym mharagraph (6)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
18 Mawrth 2003